Mae bron i dair miliwn o gwsmeriaid band eang y daeth eu cytundeb i ben yn ystod y 12 mis diwethaf yn dweud na wnaethon nhw dderbyn Hysbysiad Diwedd Cytundeb (ECN), a allai gostio hyd at £251m y flwyddyn iddyn nhw mewn cynilion.

Daw hyn yn dilyn arolwg o fwy na 17,000 o ddefnyddwyr band eang gan Uswitch.com, y cwmni cymharu â newid gwasanaeth.

Dylai mwy nag wyth miliwn o dalwyr biliau band eang y mae eu cytundebau wedi dod i ben ers mis Chwefror 2020 fod wedi derbyn Hysbysiad Diwedd Cytundeb yn yr wythnosau cyn i’w cytundeb ddod i ben – ond mae traean (33%) yn dweud na dderbynion nhw un.

Mae bod ar dariff band eang sydd wedi dod i ben yn costio tua £90 yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfartaledd.

Cafodd Hysbysiadau Diwedd Cytundeb eu cyflwyno gan Ofcom ar Chwefror 15 y llynedd ac mae angen i ddarparwyr band eang, symudol a theledu ddweud wrth gwsmeriaid pan fydd eu cytundeb yn dod i ben, a beth mae modd iddyn nhw ei gynilo drwy ymrwymo i fargen well.

Dylai cwsmeriaid dderbyn Hysbysiad Diwedd Cytundeb ar ffurf llythyr, neges destun neu e-bost rhwng 10 a 40 diwrnod cyn i’w cytundeb ddod i ben.

O’r pum miliwn o ddefnyddwyr band eang a dderbyniodd Hysbysiad, roedd mwy na phedair miliwn (88%) wedi defnyddio’r wybodaeth i newid i gytundeb gwell yn ystod y 12 mis diwethaf, naill ai gyda’u darparwr presennol neu gystadleuydd.

Mae tua un o bob wyth o bobol (12%) yn gwneud dim.

“Pwysig sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar wybodaeth am filiau eu cartref”

“Mae bywyd yn heriol ar hyn o bryd a gyda phobl yn jyglo cymaint o gyfrifoldebau mae’n bwysig sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar wybodaeth am filiau eu cartref yn hawdd,” meddai Richard Neudegg, pennaeth rheoleiddio Uswitch.com.

“Mae miliynau o gwsmeriaid band eang wedi derbyn Hysbysiad Diwedd Cytundeb neu nodyn atgoffa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n wych gweld bod y mwyafrif llethol wedi gweithredu i gael bargen well iddynt eu hunain.

“Fodd bynnag, dylai fod yn sioc bod traean o ddefnyddwyr yr oedd eu cytundeb i fod i ddod i ben wedi dweud nad oedden nhw, neu na allen nhw gofio, derbyn Hysbysiad Diwedd Cytundeb.

“Mae’n rhaid gwneud mwy i adeiladu ar lwyddiant yr hysbysiadau hyn fel bod gan bob cwsmer siawns deg o newid gwasanaeth pan fydd eu cytundeb yn dod i ben.

“Rhaid i Ofcom weithredu i sicrhau na all darparwyr ddefnyddio tactegau marchnata a phrisio sydd wedi’u cynllunio i guddio’r siawns o fargeinion gwell.”