Mae pwysau biwroctaidd ar fusnesau sy’n masnachu rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith anghymesur ar borthladdoedd Cymru, yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Mewn llythyr at Lywodraeth Prydain, mae’n dweud bod rhaid gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae’n dweud bod dulliau Brexit y llywodraeth yn golygu bod rhaid i yrwyr osgoi’r “bont dir” rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r cyfandir, gyda mwy o fferis yn cael eu rhoi ar lwybrau uniongyrchol o’r Undeb Ewropeaidd i Iwerddon.

Mae adroddiadau hefyd fod trafnidiaeth rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon sy’n mynd trwy Weriniaeth Iwerddon yn cael ei ddargyfeirio i ogledd Lloegr neu’r Alban cyn mynd am Ogledd Iwerddon, neu nad yw’r cerbydau’n teithio o gwbl.

Roedd disgwyl ychydig iawn o gerbydau ar ddechrau’r mis, ond mae’r gostyngiad o hyd o 50-70% yn destun pryder, yn ôl Ken Skates.

‘Nid problemau cychwynnol mo’r prosesau hyn’

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth a all i helpu busnesau i gynefino a dod i ddeall y prosesau newydd ar y ffin sy’n ganlyniad i’r dewisiadau a wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch sut i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Ken Skates.

“Nid problemau cychwynnol mo’r prosesau hyn – nhw yw canlyniadau parhaol penderfyniadau Llywodraeth y DU.

“Cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r systemau hyn, ac mae angen hyfforddiant a chefnogaeth i wneud yn siŵr bod busnesau a chwmnïau cludo’n hyderus wrth ddefnyddio’r prosesau newydd ar y ffin i gadw nwyddau i symud mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

“Mae’r sôn bod llai o gludiant nwyddau i Ogledd Iwerddon yn creu pryderon nad yw’r prosesau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u rhoi yn eu lle yn ddigon i beidio ag amharu ar y traffig rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru ac mae hynny’n annerbyniol.

“Rwyf wedi anfon llythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw i ofyn beth yw eu cynlluniau ar gyfer gwyrdroi’r gostyngiad cyson hwn ym mhorthladdoedd Cymru.

“Rhaid iddynt esbonio hefyd sut y maent am ddigolledu’r cymunedau hynny sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd y polisïau y maen nhw wedi’u dewis.

“Porthladdoedd Cymru yw’r ffordd gyflymaf a hwylusaf rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig ac ymlaen i’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu nawr i sicrhau bod y llwybrau strategol bwysig hyn a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt  yn cael eu cefnogi a’u hamddiffyn.”