Mae brechwyr y Gwasanaeth Iechyd yn benderfynol o ddal ati i frechu pobol mor gyflym â phosib, yn ôl nyrs, er i Lywodraeth Cymru fethu’r targed o frechu 70% o bobol dros 80 oed erbyn y penwythnos.

Dim ond 52.8% o bobol yn y categori oedran hwnnw dderbyniodd frechlyn yn yr amser targed ac mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi cael ei feirniadu.

Mae 28 o ganolfannau brechu’n weithredol ar hyn o bryd, gydag amser y brechwyr wedi’i rannu rhwng brechu’r rhai dros 75 oed a gweithwyr iechyd rheng flaen.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd sydd wedi brechu’r nifer fwyaf o bobol (32,265) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng Nghasnewydd a Thorfaen sy’n ail (25,952).

Yn ôl Alison Powell, un o benaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fe fydd brechwyr yn parhau i frechu pobol mor gyflym â phosib er nad oedden nhw wedi bwrw targedau’r Llywodraeth.

“Mae’r targedau yno, yn amlwg, i anelu atyn nhw,” meddai.

“Ond dydy hi ddim bob amser mor syml â hynny.

“Dim ond ers mis Rhagfyr rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn.

“Mae’n newydd i bawb.

“Yn nhermau methu â bwrw’r targed, rydyn ni’n ymdrin â phobol ar ddiwedd y dydd.

“Mae’n drueni, ond rhaid i ni ddal ati.

Y tywydd

Er i Mark Drakeford ddweud ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 26) fod y tywydd wedi cael effaith ar gyrraedd targedau, mae Alison Powell yn dweud na fu’n rhaid i ganolfannau brechu’r ardal gau eu drysau.

Mae’n dweud bod y feirniadaeth ynghylch cyflymdra’r brechu dros yr wythnosau diwetha’n “rhwystredig” ond fod staff yn dal yn teimlo’n bositif.

“Gall fod yn rhwystredig clywed hynny, pan ydych chi’n gwybod sawl awr rydyn ni’n eu rhoi i mewn a nifer yr oriau mae pobol yn eu gwneud ar ben eu swyddi arferol,” meddai.

“Ond dydy hynny ddim yn atal pobol rhag dod i’r gwaith.

“Mae’n awyrgylch da o hyd, mae pobol yma i edrych ar ôl ei gilydd.”