Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn dweud fod “prin hanner cartrefi gofal Cymru yn cynnig gofal dwyieithog”.

Daw ei sylwadau ar raglen ‘Dros Frecwast’ Radio Cymru, wrth iddo alw ar fyrddau iechyd i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n dweud bod sawl achos lle na chafodd safonau’r Gymraeg, a gafodd eu cyflwyno 18 mis yn ôl i sicrhau bod dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau cyhoeddus i gynnig gwasanathau Cymraeg, eu dilyn.

Ond ychwanega fod y sefyllfa wedi gwella rywfaint yn ystod y cyfnod hwnnw er ei bod yn “destun pryder” o hyd nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig oni bai bod rhywun yn gofyn amdanyn nhw.

Ymwybyddiaeth

Wrth ddweud bod ymwybyddiaeth byrddau iechyd o’r Gymraeg “yn frawychus” cyn i’r safonau gael eu cyflwyno, “mae’r sefyllfa wedi gwella’n arw” erbyn hyn, meddai, ond fod yna “beth ffordd i fynd”.

“Be ’dan ni wedi gweld ydi bod ’na broblemau wedi bod efo’r cyfathrebu yna,” meddai.

“Mae ’na nifer o achosion lle dydi gofynion y safonau o ran cyfathrebu’n ddwyieithog ddim wedi cael eu dilyn.

“Dan ni’m yn ei weld o fel hawliau ieithyddol ond yn hytrach, ansawdd y gofal.”

Tu hwnt i’r pethau bychain?

Mae’n dweud bod nodi dewis iaith cleifion yn un o’r camau sy’n cael eu cymryd fel rhan o’r safonau iaith.

Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw byrddau iechyd yn mynd y tu hwnt i hynny wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg.

“Be’ dwi ddim yn siŵr ohono fo ydi os oes ’na unrhyw beth yn mynd y tu hwnt i hynny, a dyna pam fod ’na drafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r byrddau iechyd,” meddai.

“Be’ sydd ei angen ydi lledaenu’r arfer yna.

“Ar hyn o bryd, does dim cysondeb fod pob bwrdd iechyd, mewn pob achos, yn cofnodi dewis iaith.

“A heb sicrhau bod hynny’n digwydd, dydi’r pethau ’dan ni am eu gweld ddim am ddigwydd.”

Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw “wedi ymrwymo” i gydweithio â’r byrddau iechyd a’r Comisiynydd, a’u bod nhw wedi comisiynu gwerthusiad o’r strategaeth ‘Mwy na Geiriau’.