Mae Plaid Cymru wedi croesawu arolygiad o’r defnydd o westai a barics fel llety lloches.
Ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 26), fe wnaeth Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a llefarydd materion cartref y blaid, groesawu penderfyniad y Prif Arolygydd Annibynnol Ffiniau a Mewnfudo.
Roedd Liz Saville Roberts wedi ysgrifennu at y Prif Arolygydd ar Ionawr 13 yn pwyso arno i gynnal arolygiad brys o’r gwersyll oherwydd pryderon am les y trigolion.
Mae hi bellach yn beirniadu “rhesymeg anhryloyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros ddefnyddio’r gwersyll yn ogystal â’r amodau a allai fod yn beryglus y tu mewn”.
Bydd yr arolygiad yn archwilio’r defnydd o westai a mathau eraill o lety lloches wrth gefn, gan gynnwys Camp Penally, sydd wedi’i ddefnyddio i gartrefu hyd at 250 o geiswyr lloches ers mis Medi y llynedd.
Bydd yn canolbwyntio ar rolau a chyfrifoldebau’r Swyddfa Gartref a darparwyr y gwasanaeth llety, a phartïon eraill, mewn perthynas â defnyddio llety lloches wrth gefn.
“Mae’r Swyddfa Gartref wedi osgoi craffu”
“Ers mis Medi’r llynedd, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn codi ein pryderon am resymeg anhryloyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros ddefnyddio’r gwersyll yn ogystal â’r amodau a allai fod yn beryglus y tu mewn,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’r Swyddfa Gartref wedi osgoi craffu cyhoeddus priodol ar y mater hwn ac felly, rwy’n croesawu penderfyniad y Prif Arolygydd i gynnal arolygiad, a fydd yn helpu i ddal Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn atebol am ei gweithredoedd.
“Er bod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen, nid dyma ddiwedd y daith.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw safle Penalun yn cael ei ddefnyddio fel llety mwyach, a bod ateb hirdymor cynaliadwy sy’n diogelu ac yn cynnal hawliau dynol ac urddas y rhai sy’n ceisio lloches yng Nghymru.”