Dylid cynnig gweledigaeth o “Undeb newydd” er mwyn rhwystro’r ymdrech tros annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl Aelod Ceidwadol o’r Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae David Melding, yr Aelod dros Ganol De Cymru, yn aml yn rhannu ei fyfyrdodau ar-lein, ac yn teimlo ei fod ymhlith “yr unoliaethwyr olaf”.
Ac yn ei neges ddiweddaraf, mae’n dadlau bod angen i unoliaethwyr weithredu yn go gyflym er mwyn sicrhau bod yr Alban yn aros yn rhan o’r Undeb.
Gan gyfeirio at IndyRef2, term a ddefnyddir i gyfeirio at ail refferendwm annibyniaeth yr Alban, mae’n galw am “UnionRef1”.
“Er mwyn torri’n rhydd o’r unoliaetholdeb peryglus yma, mae angen arnom gyfuniad o wleidydda da a risg craff,” meddai.
“Mae modd osgoi IndyRef2 trwy gynnig UnionRef1 i’r Deyrnas Unedig gyfan.
“Undeb newydd a fyddai’n cydnabod sofraniaeth yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon. Ac ochr yn ochr â hynny byddai’n cynnig rhagor o bŵer i ddinasoedd a rhanbarthau Lloegr.
“Os yw pobol yr Alban yn pleidleisio tros wrthod y fath setliad, yna mi allai Llywodraeth yr Alban ddechrau cynnal trafodaethau tros dorri i ffwrdd.”
Where’s the offer? Surely there will be one? Brexit part two was always going to be about Britain’s Union.#TheLastoftheUnionists pic.twitter.com/Urxb9WctC5
— David Melding (@DavidMeldingMS) January 26, 2021
Annibyniaeth
Cafodd refferendwm annibyniaeth ei gynnal yn yr Alban yn 2014, ac mi bleidleisiodd mwyafrif o 55.30% o blaid aros yn yr Undeb, gyda 44.70% yn erbyn.
Er hynny, mae’r awydd am annibyniaeth yn parhau’n gryf yno, ac mae’r drafodaeth wedi dwysáu yn sgil Brexit – pleidleisiodd yr Alban o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r un drafodaeth yn bwnc llosg yng Nghymru.
Mae arolwg gan bapur The Sunday Times yn awgrymu bod 31% o bobol yng Nghymru am weld refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal o fewn y pum mlynedd nesa’.
Ac mi rannodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, ei farn am hynny mewn cyfweliad â LabourList yn ddiweddar.
Diwygio “radical”
“Argyhoeddi pobol Cymru fod yna fwy o opsiynau na jest yr hyn sydd gennym ni yn awr, ac annibyniaeth – dyna yw ein tasg,” meddai Jeremy Miles.
“Ac mae angen i Lafur Cymru arwain y ddadl yna – dyna yw’r her i ni.
“A dw i’n credu y gallwn ni oherwydd mae gennym ni stori dda i’w hadrodd am y fath o ddiwygio rydym am ei weld.
“Ond dydyn ni ddim yn amddiffyn y drefn sydd ohoni ac rydym yn hollol glir ar y pwynt hwnnw. Does dim dadl tros amddiffyn y status quo.
“Nid annibyniaeth yw’r unig ddiwygiad radical. Mae yna weledigaeth gyffrous y gallwn ni ei chynnig hefyd.”