Mae Janet Finch-Saunders, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, wedi codi gofidion am ollyngiad olew ym Mhrestatyn, yn ogystal â’r ymateb gan Gyfoeth Naturiol Cymru i liniaru effeithiau’r gollyngiad.
Mae’n debyg bod y gollyngiad wedi digwydd yn ystod Storm Christoph, pan gafodd olew ei weld yn llifo ar hyd Cwter Prestatyn, sef cwrs dŵr sy’n rhedeg o Allt Melyd i Draeth Barcbi a Thalacre yn y dref.
“Mae unrhyw ollyngiad o danwydd, olew, neu lygryddion eraill i’n cyrsiau dŵr fel arfer yn cael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt yn yr ardal,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Mae Cwter Prestatyn yn gwagio i Dalacre, sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gyda madfallod tywod gwarchodedig a llyffantod Natterjack, ac felly mae’r unig nythfa fridio o’r math yma yng Nghymru, yn arbennig o bwysig.
“Mae gen i bryderon am les yr ardaloedd hyn a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno, a byddaf yn ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd ynghylch y mater hwn, yn enwedig gan fod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru – sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru – wedi cael ei ddisgrifio’n gron fel ‘annigonol’.”
Llywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi rheoliadau i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru.
Bydd hyn yn diogelu cyflwr afonydd, llynnoedd a nentydd Cymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau bod pob ffermwr yn deall pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd i ymuno â’r rhai sydd eisoes yn diogelu amgylchedd cyfoethog Cymru ac yn rheoli tail anifeiliaid yn gyfrifol.
Dywed Lesley Griffiths fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £1.5m i helpu ffermwyr i wella ansawdd dŵr a bod £11.5m o gyllid cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau fferm yn uniongyrchol i wella’r seilwaith rheoli maethynnau.
Mae hyn yn dilyn cynllun y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy a gefnogodd fwy na 500 o ffermydd gyda £22m o fuddsoddiad mewn seilwaith ffermydd hyd at fis Medi 2020.
Mae afonydd a llynnoedd sy’n methu cyrraedd safonau ansawdd dŵr cyfreithiol yn beth cyffredin, gan beryglu iechyd y cyhoedd a bioamrywiaeth, ac effeithio’n negyddol ar afonydd a gafodd eu hadfer yn rhyngwladol yn flaenorol sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion chwaraeon, pysgota a dibenion hamdden eraill.
Ar Ragfyr 31, adroddodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddigwyddiad yn dilyn gweithredoedd ffermwr yng ngorllewin Cymru oedd wedi gwasgaru gwastraff niweidiol ei anifeiliaid fferm, er gwaethaf y tywydd gwlyb a’r tir soeglyd.
Cyrhaeddodd un cilometr i mewn i’r brif afon, Ardal Cadwraeth Arbennig.
“Mae llygredd amaethyddol wedi effeithio ar gyrff o ddŵr ledled Cymru ers gormod o amser o lawer ac rwy’n benderfynol o weithredu i ddiogelu cefn gwlad Cymru, gan hefyd gefnogi ein ffermwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn,” meddai Lesley Griffiths.
“Rydym yn parhau i wynebu cyfradd o fwy na thri digwyddiad llygredd amaethyddol yr wythnos, ac yn erbyn cefndir o’r fath, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r cyhoedd a’r amgylchedd.
“Rwyf wedi rhoi pob cyfle i’r diwydiant fynd i’r afael â’r mater yn ystod y pedair blynedd diwethaf, a sicrhau bod y rhai sy’n llygru ein hafonydd yn gweithredu yn unol â’r rhan fwyaf o ffermwyr sy’n gofalu am yr amgylchedd.
“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a’r unig wlad sydd wedi ymgorffori yn y gyfraith fframwaith sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni feddwl am genedlaethau’r dyfodol.
“Rhaid i’r Gymru y byddwn yn ei gadael ar ein hôl fod yn addas i’n plant a’n hwyrion ac mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i gynnal y safonau hyn.”