Mae’n rhaid i’r Blaid Lafur “arwain y ddadl” ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, a herio’r syniad mai annibyniaeth yw’r unig opsiwn.

Dyna mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, wedi ei ddweud mewn cyfweliad diweddar.

Awgrymodd arolwg gan bapur The Sunday Times bod 31% o bobol yng Nghymru am weld refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal o fewn y pum mlynedd nesa’.