“Mae Neil Harris wedi mynd,” gwaeddodd fy mab. “Pwy ti’n meddwl gawn ni? Dw i eisiau hyfforddwr modern sydd am ddatblygu’r chwaraewyr o’r academi. Rhywun fel Eddie Howe, neu Craig Bellamy. Rhywun sy’n debyg i Steve Cooper yn Abertawe.”

“Na, dim siawns,” atebais. “Gawn ni rhywun canol oed, hen ffasiwn, gyda digon o brofiad. Rhywun fel Mick McCarthy.”