Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod eu hymchwiliad i’r Aelod Seneddol Neil McEvoy wedi dod i ben.
Dywedodd yr heddlu fod Senedd Cymru wedi dweud wrthyn nhw eu bod yn dymuno tynnu eu cwyn yn ôl ac felly, ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.
Fe wnaeth Neil McEvoy recordio sgyrsiau ar ei ffôn wrth fod yn destun ymchwiliad, a honni eu bod yn dangos y cyn-Gomisiynydd Safonau yn ymddwyn mewn ffordd hynod wleidyddol, rhywiaethol a rhagfarnllyd, ac fe arweiniodd y recordiadau at ymddiswyddiad y cyn-Gomisiynydd Safonau.
Fe fu’r heddlu’n ymchwilio i staff y Comisiynydd Safonau a’r Senedd mewn perthynas â chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, yn seiliedig ar y cofnodion.