Mae ymchwiliad wedi dod i’r casgliad bod Rwsia wedi ceisio dylanwadu ar refferendwm annibyniaeth yr Alban, ond nid ar bleidlais Brexit, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i adroddiad i’r ymyrraeth gael ei gyhoeddi heddiw, yn dilyn “sylwebaeth agored gredadwy fod Rwsia wedi dylanwadu ar yr ymgyrch ar annibyniaeth yr Alban ym 2014”, yn ôl y Telegraph.

Ond ar ddiwedd ymchwiliad sydd wedi para 18 mis, wnaeth Pwyllgor Gwybodaeth a Diogelwch y Senedd (ISC) ddim dod o hyd i dystiolaeth i awgrymu bod Rwsia wedi chwarae unrhyw ran yn arolwg yr Undeb Ewropeaidd 2016, meddai’r papur newydd.

Dylanwadu

Mae’r ddogfen lawn ar fin cael ei chyhoeddi yn dilyn misoedd o oedi, ddyddiau ar ôl i’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab honni ei bod “bron yn sicr” fod Mosgo wedi ceisio ymyrryd yn etholiad 2019.

Cafodd adroddiad y gynhadledd ei ohirio ar ôl cael ei baratoi gan aelodau’r pwyllgor yn y Senedd flaenorol, a hynny yn sgil penderfyniad Boris Johnson i alw etholiad cyffredinol a’r angen i ailsefydlu aelodaeth o’r pwyllgor.

Dywedodd Dominic Raab yr wythnos ddiwethaf fod “actorion Rwsiaidd” wedi ceisio dylanwadu ar y gystadleuaeth yn 2019.

Cafodd dogfennau’n ymwneud â sgyrsiau masnach y Deyrnas Unedig eu crybwyll gan yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, a ddywedodd eu bod yn dystiolaeth fod y Ceidwadwyr yn paratoi i agor y Gwasanaeth Iechyd i gwmnïau fferyllol.

Perthynas dan straen

Mae cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia wedi bod dan straen eithriadol ers achosion o wenwyno â Novichok yng Nghaersallog (Salisbury) yn 2018, a adawodd cyn-swyddog cudd, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia yn yr ysbyty ac a arweiniodd at farwolaeth Dawn Sturgess.

Arweiniodd y digwyddiad at ddiplomyddion Rwsiaidd yn cael eu diarddel o Brydain gan Theresa May, y prif weinidog ar y pryd.

Cyhoeddodd Dominic Raab y mis yma hefyd, er mawr siom i weinyddiaeth Vladimir Putin, ei fod yn gosod sancsiynau ar 25 o ddinasyddion Rwsia mewn perthynas â marwolaeth y cyfreithiwr Sergei Magnitsky, a fu farw yn 2009 ar ôl datgelu llygredd enfawr yn y Weinidogaeth fewnol.

Daw canfyddiadau honedig y gynhadledd o ymyrraeth yn nemocratiaeth Prydain ar ôl i’r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a Chanada honni i hacwyr sy’n gysylltiedig â deallusrwydd Rwsia geisio dwyn manylion ymchwil i frechlynnau coronafeirws.

Fe wnaeth Andrei Kelin, Llysgennad Rwsia i’r Deyrnas Unedig, ddiystyru’r cyhuddiadau mewn cyfweliad â’r BBC.

Dywedodd nad oedd gan ei wlad ddiddordeb mewn ymyrryd yng ngwleidyddiaeth ddomestig Prydain.

“Dydyn ni ddim yn ymyrryd o gwbl,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw ddiben ymyrryd oherwydd, i ni, p’un ai’r Blaid Geidwadol neu’r Blaid Lafur sy’n rhedeg y wlad hon, byddwn yn ceisio setlo cysylltiadau a sefydlu perthynas well na nawr.”

Wrth ei holi am yr ymdrechion honedig i ddwyn manylion ymchwil coronafeirws, dywedodd Andrei Kelin nad yw’n “credu yn y stori yma o gwbl, does dim synnwyr ynddo”.