Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i achosion o’r coronafeirws sy’n gysylltiedig â safle ffatri prosesu bwyd yng Nglyn Ebwy gael eu cadarnhau.

Bydd staff ar safle Zorba Delicacies yn cael eu profi ar gyfer y feirws heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 21), ac mae’r gwaith o olrhain pobol y maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw eisoes wedi cael ei gwblhau.

Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i ddarganfod gwraidd yr achosion, yn ôl llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dweud bod modd disgwyl rhagor o achosion mewn gweithleoedd wrth i bobol ddychwelyd i gam nesa’r pandemig.

Ond mae’r llefarydd yn dweud ei bod hi’n annhebygol iawn fod modd i bobol gael eu heintio trwy fwyd.

Daw’r achosion diweddaraf yn dilyn sawl achos ar safleoedd prosesu bwyd ym Môn a Wrecsam.

Y cwmni

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1976, gan gynhyrchu dipiau fel humous.

Yn 1996, cafodd y cwmni ei brynu gan fuddsoddwyr preifat a dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd y safle yng Nglyn Ebwy ei agor gyda’r bwriad o allu ymestyn y safle’n ddiweddarach.

Ar ôl tyfu’n sylweddol, cafodd ei werthu i’r Entrepreneurial Food Group yn 2003 a chafodd safle newydd sbon ei agor drws nesaf i’r lleoliad gwreiddiol.

Yn 2011, dechreuodd y cwmni gynhyrchu cawl ar gyfer y Real Soup Co ac erbyn hyn, mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu bwydydd i lenwi ‘wraps’.