Mae gwyddonwyr ac ymchwilwyr meddygol ledled y Deyrnas Unedig wedi croesawu canlyniadau “calonogol iawn” arbrofion brechlyn coronafeirws Prifysgol Rhydychen.
Mae cyflymder cynnal yr arbrofion hefyd wedi cael ei ganmol, gyda’r canlyniadau rhagarweiniol yn awgrymu bod y brechlyn yn ddiogel ac yn achosi ychydig o sgil-effeithiau yn unig.
“Mae’n hynod ryfeddol pa mor gyflym y mae’r brechlyn hwn wedi datblygu, gyda’n cymorth ni, drwy dreialon clinigol cynnar, ac mae’n galonogol iawn nad yw’n dangos unrhyw bryderon o ran diogelwch a’i fod yn ysgogi ymatebion cryf o ran imiwnedd” meddai’r Athro Fiona Watt, cadeirydd gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol, oedd wedi helpu i ariannu’r treial.
“Mae llawer nad ydym yn ei wybod eto am imiwnedd i’r firws sy’n achosi Covid-19.
“Ond, mae’n ymddangos bod imiwnedd gwrthgyrff a chell T yn bwysig, ac mae’r brechlyn hwn yn sbarduno’r ddau ymateb.
“Y garreg filltir nesaf mae edrych ymlaen yn fawr ato yw canlyniadau’r treialon mwy sy’n digwydd nawr i ganfod a fydd y brechlyn yn amddiffyn pobol rhag y feirws.”
Ffordd bell i fynd
Er gwaetha’r canlyniadau cadarnhaol, mae llawer hefyd yn cydnabod fod ffordd bell i fynd o hyd cyn y bydd modd cyflwyno’r brechlyn i’w ddefnyddio’n gyffredinol, ac yn ôl yr Athro Ian Jones, Athro Feiroleg ym Mhrifysgol Reading, mae data’r arbrawf “gystal ag y gallai rhywun ei ddisgwyl yn rhesymol”.
Mae’r elusen ymchwil iechyd Wellcome Trust yn canmol llwyddiant cynnar ymchwil y Brifysgol, ond yn dweud y byddai mwy nag un brechlyn yn debygol o fod yn angenrheidiol i frwydro yn erbyn y feirws ar raddfa fyd-eang.
“Dim ond un cam allweddol yw hwn ond mae’n galonogol iawn, ac yn adeiladu ar yr ymdrech ymchwil byd-eang anhygoel yn ystod yr argyfwng hwn,” meddai Alex Harris o’r Wellcome Trust.
“Mae gweld canlyniadau addawol gan sawl ymgeisydd o fewn misoedd yn rhyfeddol, ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn barod i rai ymgeiswyr fethu yn y cyfnod diweddarach a bod yn realistig ynghylch fframiau amser ar gyfer gweithgynhyrchu a chyflwyno.
“Bydd diwallu’r galw byd-eang am biliynau o ddosau yn gofyn am fwy nag un brechlyn; mae er budd pennaf pob Llywodraeth i weithio’n agored ac yn gydweithredol, gan gronni arbenigedd ac arian i gael mynediad at y gronfa ehangaf o ymgeiswyr addawol.
“Mae covid-19 yn her fyd-eang: does neb yn ddiogel nes bod pawb yn ddiogel.
“Y ffordd gyflymaf, fwyaf effeithiol o guro’r clefyd a dod â’r pandemig hwn i ben yw drwy sicrhau brechlynnau, profion a thriniaethau i’r rhai sydd yn y perygl mwyaf ym mhobman.”