Mae adroddiadau bod Rob Roberts, Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, yn destun ymchwiliad i’w ymddygiad amhriodol tuag at ddau aelod o’i staff.
Yn ôl y BBC, fe wnaeth e ofyn i ddynes 21 oed “chwarae o gwmpas” â fe, ac fe ofynnodd i aelod arall o staff fynd allan â fe.
Mae’n cydnabod fod ei ymddygiad yn amhriodol, heb wneud sylw am y digwyddiadau unigol.
Mae’n aelod seneddol dros ardal Delyn ers mis Rhagfyr y llynedd.
Ymateb
Mewn datganiad, mae’r Blaid Geidwadol yn dweud eu bod nhw’n trin yr honiadau fel rhai “ddifrifol iawn” a bod “proses gwyno yn ei lle i ymchwilio i gwynion”.
Mewn negeseuon at aelod benywaidd o staff ar Twiter, fe wnaeth e sylwadau am ei “choesau hyfryd”.
Ar ôl iddi “anwybyddu” ei negeseuon, fe awgrymodd efallai y byddai hi’n “hoffi dod i ymweld â fi yn Llundain” er mwyn “chwarae o gwmpas heb oblygiadau”.
Dywedodd y ddynes wrtho ei bod hi’n dioddef yn sgil ei hiechyd meddwl, ac fe ddywedodd e wrthi ei fod e’n “mwynhau cael hwyl” er ei fod e’n ddyn hoyw.
Wrth ymateb, dywed y ddynes nad oedd hi’n teimlo’n “gyfforddus” am ddychwelyd i San Steffan yn dilyn y digwyddiad, na chwaith am ddweud wrth ei ffrindiau “oherwydd roeddwn i’n teimlo y byddai’n effeithio fy ngyrfa yn y dyfodol”.
Wrth gyfeirio at ddyn arall, dywedodd ei fod “yn ei hoffi ac wedi ei ofyn e allan am swper”.
Dywedodd iddo “farnu’n wael” ac nad oedd y dyn “wedi ymateb yn dda iawn oherwydd roedd yn broblem iddo fy mod i’n teimlo felly”.
Mae Rob Roberts wedi derbyn nad oedd yr aelod staff “yn teimlo’n gyfforddus am y peth”, ac mae’n dweud ei fod “yn derbyn ei fod yn amhriodol”.
Mae’n dweudd ymhellach iddo “ddioddef cryn straen yn feddyliol” yn sgil cyhoeddi ei fod e’n hoyw a bod y cyfnod diwethaf “wedi bod yn heriol”.