Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth yngylch ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Tredelerch am 3.25yp ar Ebrill 13, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Cafodd y dyn 21 oed o ardal Tremorfa anafiadau a gafodd eu hachosi gan gyllell machete a dryll.

Cafodd e lawdriniaeth frys, ond mae e bellach wedi cael mynd adref o Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo sef Kamal Legall, 25, a aeth gerbron ynadon y brifddinas ar Ebrill 21.

Cafodd dyn arall, Keiron Hassan, 32, ei gadw yn y ddalfa ar ôl bod gerbron ynadon ar Ebrill 17, a chael ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Fis Mai, daeth yr heddlu o hyd i ddau wn ar dir yn Nhrebiwt, tra eu bod yn parhau i chwilio am fachete.

“Mae hwn yn arf peryglus allai achosi niwed difrifol,” meddai Ditectif Arolygydd Mark O’Shea.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch lle mae’r machete i gysylltu â ni.”