Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi galw am gyflwyno treth ar dwristiaeth yng Nghymru.

Daw hyn yn sgil problemau traffig dros y penwythnos, lle cafodd yr heddlu eu galw gan fod 500 o geir wedi parcio yn anghyfreithlon ym Mhen y Pas yn Eryri.

Mae’r heddlu wedi bod o dan bwysau ychwanegol yn sgil y twf mawr mewn ymwelwyr i Eryri, yn ôl Arfon Jones.

“Mae o’n achosi gymaint o broblemau, a tydi pobol ddim i weld yn gwrando ar ganllawiau,” meddai wrth golwg360.

“Mae gan nifer fawr o wledydd yn Ewrop dreth ar dwristiaeth ac mae’n amser bod Cymru’n cyflwyno treth tebyg.”

Cefnogi Cyngor Gwynedd i lobio Llywodraeth Cymru

Mae Arfon Jones wedi dweud wrth golwg360 y byddai’n fodlon helpu Cyngor Gwynedd i lobio Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu ar y mater.

“Byddwn yn fwy na pharod i gefnogi Cyngor Gwynedd wrth lobio Llywodraeth Cymru,” meddai.