Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ganolfan fysiau ger Cilmeri gael ei difrodi.

Cafodd ffenest ei thorri â bricsen yn y digwyddiad diweddaraf yn y ganolfan ar ffordd A483 rhwng Garth a Chilmeri rhwng Gorffennaf 10-13.

Fe fu sawl achos o gael mynediad i adeiladau anniogel a’u dinistrio, yn ogystal â difrodi cerbydau.

Mae disgwyl i’r heddlu fod yn yr ardal yn fwy aml ac i siarad ag unrhyw un maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw ar y safle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.