Mae Rod Liddle, gohebydd y Sunday Times sydd wedi dod yn adnabyddus yn sgil ei sylwadau sarhaus am y Gymraeg, dan y lach unwaith eto am awgrymu y “gallai un pennill o Sosban Fach ddileu hanner Pont-y-pŵl”.

Fe wnaeth y sylwadau yn ei golofn yn y papur newydd wrth drafod y cyngor na ddylai corau ddod ynghyd i ganu yn ystod yr ymlediad, a hynny ar sail tystiolaeth sy’n awgrymu bod canu’n helpu’r feirws i ledaenu.

“Mae’r Gymraeg, am wn i, yn iaith fynegiant, yn llawn [treigladau] llaes.

“Un pennill o Sospan [sic] Fach ac fe allech chi ddileu hanner Pont-y-pŵl.

“Yn ffodus, mae bwyta gwymon a llosgi cartrefi pobol yn iawn, dw i’n meddwl.”

‘Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy’

Nid dyma’r tro cyntaf o bell ffordd i ffrae iaith godi yn sgil un o golofnau Rod Liddle.

Adeg ail-enwi Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru yn 2018, fe wnaeth e gorddi’r dyfroedd wrth awgrymu’r enw ‘Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy’ – enw, meddai, oedd yn “annealladwy heb lefariaid”.

Roedd yr erthygl yn sôn am bont a fyddai’n cysylltu “cymoedd glawog â’r byd”.

Roedd yn awgrymu nad oedd ots am enw’r bont “dim ond ei bod yn galluogi pobol i adael y lle ar unwaith”.

Ymateb

Mae ei sylwadau diweddaraf wedi ennyn ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol.