Mae cannoedd o bobol wedi bod yn protestio yn erbyn ymweliad brenin a brenhines Sbaen â Chatalwnia.
Mae Felipe VI a Letizia wedi bod yn teithio i bob cwr o Sbaen i godi ysbryd y genedl yn ystod ymlediad y coronafeirws.
Ac fe ddaw ynghanol ffrae am ei dad, y cyn-frenin Juan Carlos, sydd wedi’i amau o gelu miliynau o Ewros heb eu trethi mewn cyfrifon cudd.
Mae erlynwyr wrthi’n penderfynu a ddylid dwyn achos yn ei erbyn am dderbyn yr arian gan Saudi Arabia, o bosib yn gyfnewid am brosiect rheilffordd cyflym.
Dydy’r cyn-frenin ddim wedi gwneud sylw am y mater, ond mae ei fab wedi gwrthod etifeddiaeth gan ei dad ar ôl i hwnnw roi’r gorau i fod yn frenin yn 2014.
Ymweliad
Mae’r brenin a’r frenhines yn bwriadu teithio i bob un o 17 o ranbarthau Sbaen er mwyn dangos cefnogaeth i drigolion y wlad a’r economi yn sgil y pandemig.
Roedd disgwyl iddyn nhw fynd i Gatalwnia yr wythnos ddiwethaf ond bu’n rhaid addasu’r cynlluniau yn sgil cynnydd sydyn mewn achosion o’r feirws yn ardal Barcelona.
Roedd y protestwyr heddiw’n cludo baneri ac yn arddangos cardiau’n dwyn y frawddeg “Does gan Gatalwnia ddim brenin”.
Cafodd y brotest ei threfnu gan y mudiad ANC – Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia.
Bu tyndra sylweddol rhwng Sbaen a Chatalwnia ers 2017 ar ôl i Sbaen wahardd refferendwm ac fe arweiniodd at wrthdaro ffyrnig rhwng protestwyr a’r awdurdodau.
Ar ôl i’r heddlu gau ffyrdd yng Nghatalwnia, mae’r protestwyr wedi bod yn ceisio amharu ar y daith drwy gyrraedd aelodau’r teulu brenhinol mewn sawl ffordd arall, gan gynnwys cerdded trwy winllan.