Bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn elwa ar ymroddiad newydd i gynnig cyfleoedd a chyfleusterau trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi i’r Brifysgol lansio cyfres o addewidion newydd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 20).

Mae ‘Addewidion Aber’ yn nodi wyth ymrwymiad gan y Brifysgol i fyfyrwyr Cymraeg yn ystod eu cwrs.

Ymhlith yr ymrwymiadau mae:

  • Cyrsiau cyfrwng Cymraeg o bob math ar draws y Brifysgol
  • Llety Cymraeg i fyfyrwyr, gan gynnwys yn Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd
  • Tiwtor sgiliau academaidd i gynorthwyo myfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

“Rydyn ni am i fyfyrwyr gael y profiad gorau a llawnaf oll drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r addewidion hyn yn gam arall ar y ffordd i gyflawni’r uchelgais honno,” meddai Dr Anwen Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor sydd yn gyfrifol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

“Mae ymestyn cyfleoedd a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o flaenoriaeth i mi’n bersonol, ac i Brifysgol Aberystwyth fel sefydliad.

“Mae gan y myfyrwyr hawliau cyfreithiol pendant sy’n ymwneud â’r Gymraeg, wrth gwrs, ond rydyn ni am fynd gam ymhellach a chynnig rhagor o wasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, ac fel rhan o’u bywydau academaidd a chymdeithasol.”

“Mae dyfnder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cynlluniau gradd cyfan drwy gyfrwng yr iaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig profiad cymdeithasol Cymraeg heb ei ail yma. Mae hi’n adeg gyffrous iawn yn Aberystwyth wrth i ni baratoi ail agor drysau Neuadd Pantycelyn i fyfyrwyr unwaith eto. Heb os, dyma gyfle unwaith-mewn-bywyd i’r genhedlaeth nesaf.”

Tu hwnt i’r gofynion

Mae Addewidion Aber yn mynd tu hwnt i ofynion statudol Safonau’r Gymraeg.

“Mae gan fyfyrwyr yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngholegau a phrifysgolion Cymru ers Ebrill 2018, ac mae’n wych fod Prifysgol Aberystwyth wedi mynd gam ymhellach trwy gynnig yr addewidion hyn”  meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg sydd yn croesawu ac yn canmol y cyhoeddiad.

“Felly, fyfyrwyr, mae gennych chi’r hawl ac addewidion pellach gan eich Prifysgol i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Manteisiwch ar y cyfle, a gadael i’r Gymraeg dreiddio i bob rhan o’ch bywyd yn y brifysgol.”