Mae’r Bil Masnach “yn gyfle i ddangos bod y Deyrnas Unedig wirioneddol yn bartneriaeth hafal,” yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion.

Mae’r blaid wedi cyflwyno gwellint a fyddai’n sicrhau bod y llywodraethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cael cyfle i bleidleisio a rhoi sêl bendith i unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol.

Mae’r Bil yn destun dadl yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 20), ac fe fydd yn siapio’r ffordd mae trafodaethau masnach rynglwadol yn cael eu cynnal yn dilyn cyfnod pontio Brexit.

Cynsail

Yn 2016, fe bleidleisiodd senedd Wallonia yng Ngwlad Belg yn erbyn cytundeb masnach yn null Canada â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae yna fframweithiau tebyg yn eu lle ar gyfer llywodraeth datganoledig yn yr Almaen a thaleithiol yn yr Unol Daleithiau.

Ond ar hyn o bryd, does dim rhaid i Lywodraeth Prydain gael sêl bendith y llywodraethau datganoledig cyn llofnodi cytundebau masnach.

“Bydd gan Gymru lai o lais ynghylch ein dyfodol na senedd ranbarthol yng Ngwlad Belg,” meddai Ben Lake.

“Mae’r gwelliant hwn yn rhoi’r cyfle i Lywodraeth San Steffan ddangos bod y Deyrnas Unedig wirioneddol yn bartneriaeth hafal.

“Drwy roi llais i bob un o seneddau’r Deyrnas Unedig ar ein perthnasau masnach yn y dyfodol, nid yn unig y gall San Steffan sicrhau tegwch cyfansoddiadol, ond hefyd gytundebau masnach gwell gan y bydd holl wledydd y Deyrnas Unedig wedi’u cynrychioli’n iawn.

“Os yw Llywodraeth San Steffan am roi lle ein pedair gwlad yn gyntaf mewn unrhyw gytundeb masnach, does ganddyn nhw ddim byd i boeni yn ei gylch.

“Bydd yr holl seneddau, yn syml iawn, yn pleidleisio dros unrhyw gytundeb.

“Y broblem yw nad ydw i, yn syml iawn, yn ymddiried yng ngeiriau cynnes Llywodraeth San Steffan na fyddan nhw’n gostwng ein safonau bwyd nac yn rhoi’r Gwasanaeth Iechyd ar werth yn eu hymdrechion despret ar gyfer cytundeb masnach â’r Unol Daleithiau.”