Mae mwy o gartrefi a busnesau yn elwa o gynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno band eang cyflym iawn, yn ôl Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.
Mae’r mwyafrif helaeth o gartrefi a busnesau yng Nghymru (95%) eisoes wedi cael mynediad at fand eang cyflym iawn ar ôl cwblhau’r cynllun Cyflymu Cymru, meddai’r Llywodraeth.
“Mae Covid-19 wedi dangos yn amlwg bwysigrwydd band eang cyflym a dibynadwy,” meddai Lee Waters.
“Er bod gan fwyafrif yr adeiladau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn, diolch i ymyrraeth flaenorol drwy gynllun Cyflymu Cymru, rydym yn gwybod bod yn rhaid inni gyrraedd yr adeiladau olaf sydd heb fynediad.”
Cytundeb
Fel rhan o becyn o fesurau i gyrraedd yr adeiladau sy’n weddill, mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb gydag Openreach fydd bellach yn cynyddu o 26,000 o adeiladau i 39,000.
Bydd yr estyniad yn cael ei ariannu gan £30 miliwn o Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, gyda buddsoddiad ychwanegol gan Openreach.
Bydd ymestyn y prosiect, y mae’n nhw’n gobeithio y bydd wedi ei gwblhau erbyn Mehefin 2022, yn targedu ardaloedd yr awdurdod lleol sydd â llai na 90% o fynediad at fand eang cyflym iawn.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau cydbwysedd gwell o ran band eang cyflym iawn ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn rhoi mynediad at y band eang cyflymaf, mwyaf dibynadwy sydd ar gael i fwy o gartrefi a busnesau.
“Nid y cynllun ffibr yw’r ateb i bob adeilad sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn,” ychwanegodd Lee Waters.
“Dyna pam fod gennym nifer o gynlluniau eraill gan gynnwys y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y Gronfa Band Eang Lleol a chynllun ychwanegu Cymru at gynllun Talebau Gigabit Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Er nad yw band eang wedi’i ddatganoli, rydym yn benderfynol o weithredu ble y gallwn i wella cysylltedd ar draws pob rhan o Gymru.”
Rhwydwaith
Yn ôl Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru, maen nhw’n falch iawn o allu “adeiladu rhwydwaith ffibr llawn y genhedlaeth nesaf hyd yn oed ymhellach ar draws y Gymru wledig o ganlyniad i’r estyniad hwn”.
“Mae cyfnod cloi y coronafeirws wedi atgoffa pawb fod cael cysylltiad band eang da yn bwysicach nag erioed i fusnesau a chartrefi – waeth ble rydych yn byw neu yn gweithio,” meddai.
“Felly rydym yn falch iawn o allu adeiladu ar lwyddiant ein partneriaeth bresennol gyda Llywodraeth Cymru.
“Er gwaethaf effaith y pandemig, mae ein peirianwyr sy’n weithwyr allweddol wedi parhau i adeiladu a chynnal ein rhwydwaith ledled Cymru ac eisoes wedi cysylltu mwy na 8,000 o gartrefi a busnesau gyda ffeibr llawn yr holl ffordd o’r gyfnewidfa i’w heiddo – gan ddod â mynediad at y cysylltiad band eang cyflymaf a mwyaf dibynadwy yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.”