Mae rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion gafodd eu cau dros dro yn sgil pandemig y coronafeirws wedi ail agor.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, cafodd rhannau o’r llwybr eu cau ddechrau mis Ebrill er lles iechyd y cyhoedd.

Gan fod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn cael eu llacio’n raddol, gall aelodau’r cyhoedd bellach ddefnyddio’r llwybrau’n ofalus; ond mae’r cyngor yn dweud bod angen cadw canllawiau cyfredol o ran y coronafeirws mewn cof.

Er mwyn mwynhau’r llwybrau’n ddiogel, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i bobl gofio:

  • fod lled y llwybr yn amrywio, ac yn llai na 2m mewn rhai mannau, felly wrth basio eraill neu roi lle iddynt basio, dylech droedio’n ofalus a chadw at y llwybr lle bo modd.
  • Defnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd, yn enwedig o amgylch gatiau a chamfeydd.
  • Cynllunio ymlaen llaw er mwyn gwneud y gorau o’ch siwrnai.
  • Cofio dilyn y Cod Cefn Gwlad