Mae ail ddyn wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad ar ddyn 21 oed yn ardal Tredelerch yng Nghaerdydd ar Ebrill 13.

Bydd Kamal Legall, 25, yn mynd gerbron ynadon y brifddinas fore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 21).

Mae dau ddyn arall oedd wedi’u harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad erbyn hyn.

Cafodd dyn arall, Keiron Hassan, 32, ei gadw yn y ddalfa ar ôl bod gerbron ynadon ddydd Gwener (Ebrill 17) a chael ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Cefndir

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Tredelerch am 3.25 brynhawn dydd Llun, Ebrill 13, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Cafodd dyn 21 oed anafiadau oedd wedi cael eu hachosi gan machete a dryll.

Bu’n rhaid iddo gael driniaeth frys yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond mae e bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.