Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i achos o geisio llofruddio dyn 21 oed wedi dod o hyd i arfau yn ardal Tredelerch.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad dan sylw ar brynhawn dydd Llun, Ebrill 13.

Daeth yr heddlu o hyd i’r arfau yn ardal Trebiwt, ac mae’r chwilio’n parhau yn yr ardal.

Cefndir

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Tredelerch am 3.25yp ar Ebrill 13, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Cafodd y dyn 21 oed o ardal Tremorfa anafiadau a gafodd eu hachosi gan machete a dryll.

Cafodd e lawdriniaeth frys, ond mae e bellach wedi cael mynd adref o Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae Kamal Legall, 25, a Keiron Hassan, 32, wedi’u cyhuddo o geisio llofruddio ac maen nhw wedi’u cadw yn y ddalfa.

Mae dau ddyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio bellach wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.