Mae un o brif ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Prydain wedi ymddiswyddo ar ôl anwybyddu rheoliadau gwarchae’r coronafeirws er mwyn gadael i’w gariad ymweld â’i gartref.
Daeth cadarnhad neithiwr (nos Fawr, Mai 5) fod yr Athro Neil Ferguson wedi camu o’r neilltu tros “gamfarnu sefyllfa” ac am “danseilio” ymdrechion y Llywodraeth i bwysleisio’r angen i bobol aros gartref.
Mae lle i gredu bod dynes – ei gariad, yn ôl adroddiadau – wedi ymweld â’i gartref yn Llundain o leiaf ddwywaith, ar Fawrth 30 ac Ebrill 8.
Roedd ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) lle mae e’n gweithio’n rhybuddio y gallai hyd at 250,000 o bobol farw heb gamau difrifol.
Mae’n dweud ei fod e’n credu nad oedd modd iddo gael ei heintio ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws y tro cyntaf, a’i fod e wedi ynysu am bythefnos.
Mae Coleg Prifysgol Llundain yn dweud bod yr Athro Neil Ferguson am barhau â’i waith ymchwil.
Pan gafodd ei heintio, fe bwysleisiodd yr angen i bobol wrando ar gyngor Llywodraeth Prydain er mwyn ceisio atal yr ymlediad.
Daw ei gamwedd wythnosau’n unig ar ôl i Dr Catherine Calderwood, Prif Swyddog Meddygol yr Alban ar y pryd, orfod ymddiswyddo ar ôl ymweld â’i hail gartref ddwywaith.