Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn newid yn swyddogol i Senedd Cymru a Welsh Parliament heddiw (dydd Mercher, Mai 6).

Fe ddaw yn dilyn deddfwriaeth a gafodd ei phasio’n gynharach eleni.

Mae’r enw newydd yn adlewyrchu statws llawn y sefydliad fel senedd genedlaethol, gyda phwerau deddfu a’r gallu i amrywio trethi.

Mae’r enw newydd, a’r dyddiad ar gyfer y newid, yn gyfraith yn ôl Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Mi fydd teitlau’r 60 Aelod, a etholwyd i gynrychioli pobol Cymru, yn newid i fod yn Aelod o’r Senedd (AS) neu ‘Member of the Senedd’ (MS) yn Saesneg.

Yn ôl y Llywodraeth, er bod Senedd Cymru’n mabwysiadu ei henwau newydd heddiw, mae COVID-19 yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i’r Senedd a’i haelodau wrth iddi barhau â’i gwaith yn cefnogi a chraffu ar yr ymateb swyddogol i’r pandemig.

‘Sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd fel Cynulliad ym 1999’

Mewn datganiad ysgrifenedig, meddai’r Llywydd, Elin Jones AS:

“Mae ymateb i argyfwng y coronafeirws yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Senedd a’r Aelodau,” meddai Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein dinasyddion yn disgwyl senedd genedlaethol gref sy’n gweithio dros Gymru: Aelodau’n gofyn cwestiynau i’r Llywodraeth, yn craffu ar bwerau a deddfau brys, ac yn cynrychioli eu cymunedau hyd eithaf eu gallu yn y Senedd.

“Mae rôl ein senedd yn llawer mwy arwyddocaol na’i henw.

“Ond mae’n briodol bod yr enw’n adlewyrchu’r ystod o bwerau a chyfrifoldebau sydd gan y senedd hon ar ran pobol Cymru.

“Mae’r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd fel Cynulliad ym 1999.

“Bellach mae ganddi bwerau deddfu llawn a’r gallu i amrywio trethi ac mae’r enw newydd yn cyfleu statws cyfansoddiadol y Senedd fel senedd genedlaethol.”

Gostwng oedran pledleisio

Yn ogystal â chyflwyno enw newydd, mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn golygu y bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed, o heddiw ymlaen, yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mae cofrestru ar gyfer y grŵp oed newydd yn agor ar 1 Mehefin 2020.

Prif newidiadau Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru):

  • Enw swyddogol newydd, sef Senedd Cymru neu Welsh Parliament.
  • Gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.
  • Rhoi’r bleidlais i ddinasyddion tramor cymwys.
  • Newid y gyfraith fel bod y gwaharddiadau sy’n rhwystro pobol rhag dod yn Aelodau o’r Senedd ddim yn eu rhwystro rhag bod yn ymgeisydd mewn etholiad, ac felly’n caniatáu i fwy o bobl allu bod yn ymgeiswyr.
  • Darparu bod y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gyllido gan y Senedd a’i fod yn atebol iddi ar gyfer etholiadau yng Nghymru.