Mae dynes 29 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn oedrannus yn dilyn digwyddiad ym mhentref Pen-y-graig yng Nghwm Rhondda heddiw (dydd Mawrth, Mai 5).

Mae dyn arall mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad, ac mae dau berson arall wedi cael anafiadau nad ydyn nhw’n peryglu eu bywydau.

Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth y dyn fu farw.

Mewn datganiad, maen nhw’n dweud iddyn nhw gael eu galw i siop ar Heol Tylacelyn yn y pentref am 1.45yp.

Maen nhw wedi cadarnhau marwolaeth un dyn, a bod dyn arall wedi’i gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, gyda dau berson arall wedi cael anafiadau.

Mae’r ddynes sydd wedi’i harestio’n cael ei holi yn y ddalfa, ac mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad.