Sgoriodd Gareth Bale yn y fuddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Wycombe yng Nghwpan FA Lloegr neithiwr (nos Lun, Ionawr 25), wrth gwblhau 90 munud am y tro cyntaf ers dychwelyd i’r clwb.

Ond bu’n rhaid i Spurs frwydro’n galed ar ôl i Wycombe fynd ar y blaen drwy Fred Onyedinma, gyda’r Cymro’n unioni’r sgôr.

Daeth goliau hwyr wedyn wrth i Harry Winks sgorio a Tanguy Ndombele yn rhwydo ddwywaith i sicrhau gêm yn erbyn Everton yn y bumed rownd.

Gwastraffu cyfleoedd

Fe allai’r sgôr fod wedi bod yn waeth fyth i Wycombe pe bai Gareth Bale wedi cymryd ei gyfleoedd o flaen y gôl.

Serch hynny, roedd cwblhau’r 90 munud yn bwysicach fyth i’r Cymro, wrth iddo chwarae am y tro cyntaf ers Rhagfyr 23.

“Roedd e’n dda, yn dda,” meddai Jose Mourinho am y Cymro.

“Rhai symudiadau da, un yn erbyn un, curo pobol, ymosod ar bobol, creu cyfleoedd.

“Wrth gwrs, sgorio gôl.

“Ar wahân i hynny, do’n i byth yn teimlo na fyddai’n gallu chwarae am y 90 munud.

“Do’n i byth yn teimlo bod rhaid i fi ei newid e ac mae hynny’n dda.

“Wrth gwrs, mae’r Bencampwriaeth yn dda, yn lefel gystadleuol ac mae lefel yr ymosod yn uchel a’r dwyster yn dda, felly dw i’n hapus.”