Mae cyn-reolwr Merched Cymru, Jayne Ludlow, yn dweud ei bod hi wedi gwneud y “penderfyniad cywir” wrth adael ei swydd.
Roedd Jayne Ludlow wedi bod wrth y llyw ers mis Hydref 2014 a hi oedd y rheolwr cyntaf i arwain y tîm mewn mwy na 50 o gemau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cododd Cymru i’r 30 uchaf yn safleoedd Menywod FIFA a daeth y tîm o fewn trwch blewyn o gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2019.
“Dwy i’n caru’r chwaraewyr ac yn gobeithio mai dyma’r penderfyniad cywir i bawb wrth symud ymlaen,” meddai Jayne Ludlow wrth BBC Sport Wales.
“Fel hyfforddwr ifanc yn dod i amgylchedd tîm cenedlaethol roedd angen i mi ddysgu, roedd angen i mi ddysgu’n gyflym ac roedd hwn yn amgylchedd gwych i mi wneud hynny.
“Mae gen i atgofion melys o fy amser yn y swydd. Mae wedi bod yn wych ac mewn sawl ffordd, wedi rhoi popeth roeddwn i wedi’i ddymuno i mi.
“Ond nawr, wrth ystyried lle rydw i arni, a lle mae’r grŵp, dyma’r penderfyniad cywir.”
“Edrych ymlaen am y sialens nesaf”
Dywed Jayne Ludlow ei bod hi’n “edrych ymlaen am y sialens nesaf” er nad oes “dim byd cadarn hyd yma”.
“I mi, y prif beth nawr yw sut y galla’ i gael effaith ar y gêm?” meddai.
“Sut y galla’ i fod yn fwy defnyddiol i’r gêm dw i’n ei garu, boed hynny ym mhêl-droed merched ai peidio.
“Mae pêl-droed wedi rhoi bywyd ardderchog i mi hyd yma ac efo lwc bydd yn parhau i wneud hynny a byddai’n parhau i gael dylanwad ar bobol a’u hannog i fwynhau’r gêm dw i’n ei charu gymaint.”