Mae Adam Price AoS yn dweud y byddai ei blaid yn diwygio’r dreth gyngor pe bai’n ennill yr etholiad fis Mai.

Ar ben hynny, mae arweinydd Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei chronfeydd dros ben i rewi’r dreth ar unwaith.

Yn sesiwn holi’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 2), dywedodd Adam Price y byddai’n costio £100m i ganiatáu i gynghorau Cymru rewi’r dreth gyngor a gwrthbwyso’r cynnydd cyfartalog o 4.8% a gafodd ei weld y llynedd.

Dywed fod system treth gyngor Cymru yn un “hen, anflaengar a gwyrdroedig”.

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn gwneud treth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar, gan ychwanegu y byddai 20% o aelwydydd ar yr incwm isaf o dan gynigion o’r fath yn gweld arbedion o o leiaf £200.

“System decach”

“Mae unrhyw sôn am y pandemig fel y ‘lefelwr mawr’ wedi cael ei chwalu’n llwyr gan y realiti llym sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru,” meddai Adam Price AoS.

“Dyna pam rwy’ wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio £100m o’i chronfeydd sydd heb ei gwario o £800m i rewi’r dreth gyngor ar unwaith, gan wneud yn iawn am gynnydd cyfartalog y llynedd o 4.8%.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynd ymhellach ac yn diwygio’r dreth gyngor i’w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar. Byddwn yn ailbrisio, yn cynyddu nifer y bandiau ar ben uchaf gwerthusiadau cartrefi, ac yn sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth eiddo.

“Rydym yn disgwyl y bydd 20% o aelwydydd yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm o dan ein cynigion yn gweld eu treth gyngor yn gostwng mwy na £200.

“Byddai hon yn system decach o bell ffordd na’r hyn y mae Llafur wedi’i adael yn ei le ers gormod o amser.”

Cyflwyno cynigion gwariant drudfawr “wythnos ar ôl wythnos”

“Wythnos ar ôl wythnos, mae e [Adam Price] yn rhoi cynigion gwariant sy’n costio degau neu gannoedd o filiynau o bunnoedd,” meddai Mark Drakeford wrth ateb yn y Senedd.

“Yr hyn sydd gennym yng Nghymru ydi cynllun unigryw budd-daliadau treth gyngor lle rydym ni fel Llywodraeth yn gwario’r £220m o bunnoedd a gawsom gan Lywodraeth San Steffan.

“Rydym wedi ychwanegu arian i’r cynllun hwnnw y flwyddyn hon, tua £5.4m dw i’n credu, i sicrhau bod y cynllun hwnnw’n gallu parhau i weithredu ac mae’n cefnogi 300,000 o deuluoedd yng Nghymru.”