Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio â chwmnïau fferyllol a gwyddonwyr i ddeall a oes angen addasu’r brechlyn coronafeirws yn sgil yr amrywiolion newydd.
Daw ei sylwadau wrth ateb cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin gan Ruth Jones, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd.
Yn yr Hydref, ymddangosodd amrywiolyn newydd o’r feirws, amrywiolyn Caint, a bellach mae pryderon am amrywiolion o Dde Affrica a Brasil.
“Ydyn, rydym yn gweithio gyda chwmnïau fferyllol a chyda’r gwyddonwyr i ddeall a oes angen addasiadau o’r fath, a hefyd i weld ble mae eu hangen a sut y gellir eu defnyddio ar y rheng flaen cyn gynted â phosibl yn ddiogel,” meddai Matt Hancock.
“Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth pwysig iawn i’w ystyried o ganlyniad i’r amrywiolion newydd rydym wedi’u gweld, ac rydym yn hyderus y bydd addasiadau i frechlynnau os bydd ei angen ar gael ar raddfa fawr yn gyflymach na’r brechlynnau gwreiddiol.
“Ac yn union fel y gwnaethom y tro cyntaf, pan wnaethom ni ymateb yn gynnar a phrynu dan bwysau, rydym yn cael yr un sgyrsiau ar hyn o bryd gyda’r cwmnïau fferyllol i sicrhau ein bod ar y blaen.”
Mwy na 440,000 dos o frechlyn coronafeirws wedi’u rhoi yng Nghymru
Heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 2), cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 439,640 dos cyntaf a 1,066 ail ddos o frechlyn coronafeirws wedi’u rhoi i bobol yng Nghymru erbyn hyn.
Mae 77.2% o bobol dros 80 oed, 75.8% o breswyliaid cartrefi gofal a 79.5% o staff cartrefi gofal wedi derbyn dos cyntaf.