Fe allai pedwerydd brechlyn Covid-19 gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig o fewn wythnosau wrth i brofion awgrymu ei fod 89% yn effeithlon wrth atal y coronafeirws.
Mae’r DU wedi sicrhau 60 miliwn dos o’r brechlyn Novavax, y credir sy’n diogelu rhag yr amrywiolyn newydd o’r firws.
Roedd wedi profi’n 89.3% yn effeithlon mewn wrth atal y coronafeirws mewn profion clinigol yn y DU, a oedd yn cynnwys mwy na 15,000 o bobl rhwng 18-84. Roedd 27% dros 65 oed, meddai Novavax.
Fe fydd y brechlyn nawr yn cael ei asesu gan y corff sy’n cymeradwyo meddyginiaethau (MHRA), meddai’r Prif Weinidog Boris Johnson.
Mae disgwyl i’r brechlyn ddechrau gael ei gynhyrchu yn Stockton-on-Tees erbyn mis Mawrth neu Ebrill, meddai prif weithredwr Novavax, Stan Erck. Mae’r cwmni yn gobeithio y bydd y brechlyn yn cael ei gymeradwyo tua’r un pryd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock bod y Gwasanaeth Iechyd yn barod i gyflwyno’r brechlyn os yw’n cael ei gymeradwyo a fydd yn “hwb sylweddol i’n rhaglen frechu”.
Mae dau frechlyn eisoes yn cael eu defnyddio yn y DU – un Pfizer a Rhydychen/AstraZeneca – tra bod trydydd brechlyn Moderna wedi cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio.