Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 29) y bydd y cyfnod clo yng Nghymru yn parhau mewn grym am dair wythnos arall.

Mae disgwyl iddo hefyd ddweud y gallai disgyblion ysgolion cynradd ddechrau dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau hanner tymor mis Chwefror os yw cyfraddau coronafeirws yn parhau i ostwng.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y sefyllfa o ran Covid-19 yn “gwella” ond bod angen i gyfyngiadau clo Lefel 4 barhau am dair wythnos arall “er mwyn caniatáu i’r Gwasanaeth Iechyd adfer.”

Ychwanegodd y gallai plant ddychwelyd yn raddol i’r ysgolion cynradd ar ôl Chwefror 22 os yw’r sefyllfa yn parhau i wella.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod cyfraddau coronafeirws ar draws Cymru wedi gostwng i lai na 200 o achosion am bob 100,000 o bobl am y tro cyntaf ers dechrau mis Tachwedd.

“A bob dydd mae miloedd yn rhagor o bobl yn derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19 – mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 11% o’r boblogaeth wedi cael eu brechu.”

Mae’r awdurdodau yn adolygu’r sefyllfa bob 21 diwrnod a ddoe (Dydd Mercher) dywedodd y prif swyddog meddygol Dr Frank Atherton bod llacio’r cyfyngiadau yn annhebygol tan o leiaf diwedd mis Chwefror.

“Cyfuniad o ffactorau”

Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Breakfast y byddai’n ystyried “cyfuniad o ffactorau” cyn bod plant yn cael dychwelyd i’r ysgol yng Nghymru.

“Fe fyddwn ni’n edrych yn ofalus ar nifer y bobl yn ein hysbytai ac mewn gofal dwys.

“Fe fyddwn ni wedyn yn gwneud penderfyniad – y prif beth yw bod y ffigurau’n parhau i ostwng.”

Ychwanegodd: “Os yw’n ddiogel i wneud hynny, ry’n ni eisiau i’n plant, mwy ohonyn nhw, fod yn ôl yn y dosbarth.

“Dyna beth maen nhw ei angen, a dyna maen nhw’n ei haeddu, ac mae ein Cabinet yn benderfynol y bydd hynny’n brif flaenoriaeth i ni yma yng Nghymru.”