Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu cyfres o fesurau newydd wrth i brif gynghorwyr meddygol a gwyddonol Cymru rybuddio mai amrywiolyn Caint o Covid-19 yw’r straen amlycaf ym mhob rhan o Gymru.

Daw hyn wrth i’r Ceidwadwyr alw am ‘lwybr clir’ allan o’r cyfyngiadau.

Mae’r mesurau a gynigiwyd gan Adam Price yn cynnwys gwneud masgiau gradd feddygol yn orfodol i bawb, a mwy o gamau i reoli trosglwyddo cartrefi.

Mae’r data diweddaraf o’r Arolwg Heintiau Coronafeirws yn dangos lefelu yng nghanran poblogaeth Cymru sy’n profi’n bositif am Covid yn yr wythnosau diwethaf, pan oedd wedi bod yn gostwng o’r blaen.

Ymysg y mesurau y mae’n eu cynnig, mae:

  • Masgiau wyneb gradd feddygol gorfodol.
  • Cynyddu’r lefel ac ymestyn cymhwysedd y Grant Cymorth Hunanynysu presennol
  • Canolfannau 24/7 ar gyfer cyflwyno’r brechlyn, yn enwedig pan fydd y boblogaeth iau yn dechrau cael eu brechu.
  • Cyflwyno profion cymunedol torfol yn gyflym, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithwyr na allant weithio gartref.
  • Lleihau trosglwyddo o fewn y cartref drwy gynyddu’r lwfans tanwydd gaeaf i annog mwy o awyru, cynnig llety ynysu y tu allan i’r cartref, a chyfathrebu’n well â’r cyhoedd ar sut i atal trosglwyddo o fewn y cartref.
  • Lleihau trosglwyddo rhwng cartrefi drwy annog manwerthwyr bwyd i flaenoriaethu cartrefi ar wahân ar gyfer danfoniadau, trefnu gweithwyr gofal wedi’u brechu i ofalu am ddibynyddion pe bai gofalwr di-dâl mewn cartref yn mynd yn sâl gyda Covid.
  • Chwistrelliad arian parod i wasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AoS: “Gyda’r dystiolaeth yn dangos mai amrywiolyn Caint, bellach, yw’r prif straen ym mhob rhan o Gymru, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfres o fesurau newydd mewn ymdrech i ostwng cyfraddau ymhellach.

“Ar ôl bod yn rhy araf i mewn i’r cyfyngiadau, allwn ni ddim bod yn rhy araf wrth archwilio pob llwybr posibl ar gyfer rheoli’r amrywiolyn newydd.

“Gan fod yr amrywiolyn hwn yn fwy trosglwyddadwy, mae Plaid Cymru am weld ffocws o’r newydd ar leihau trosglwyddo o fewn a rhwng aelwydydd.

“Dylai hyn gynnwys mwy o gefnogaeth i’r negeseuon hunanynysu, iechyd cyhoeddus cryfach ar olchi dwylo a glanhau arwynebau aelwydydd, mwy o gymorth iechyd meddwl, a dull 24/7 o gyflwyno’r brechlyn.”

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru

‘Mae’r haint yn arafu ac mae nifer yr achosion yn crebachu’

Peth “newyddion da” am sefyllfa’r argyfwng, ond dim llacio eto

Ceidwadwyr yn galw am ‘lwybr clir’ allan o’r cyfyngiadau

Bydd Llywodraeth Cymru yn ailasesu’r cyfyngiadau presennol dydd Gwener, oond nid oes disgwyl llacio tan ddiwedd mis Chwefror ar y cynharaf