Mae llefarydd y Cediwadwyr dros yr Economi wedi galw am ‘lwybr clir’ allan o’r cyfyngiadau ac wedi rhannu ei bryder unwaith eto am y sector twristiaeth.

Dywedodd Russell George AoS fod yr effaith wedi bod yn “ddifrifol” ar y sector twristiaeth a lletygarwch a bod perygl i’r sectorau gael eu hanghofio wrth i ymdrechion ganolbwyntio ar y brechlyn ac addysg.

“Does dim ateb i hyn sy’n hawdd ac yn ddiogel, ac felly mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn gweithredu map, ar frys, a fydd yn ein harwain allan o’r cyfyngiadau a sicrhau mai dyma’r cyfyngiadau diwethaf,” meddai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ailasesu’r cyfyngiadau presennol yfory (dydd Gwener, Ionawr 29).

Ond mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, eisoes wedi rhybuddio na fydd “llacio sylweddol” i’r cyfyngiadau ar hyn o bryd.

Mae’r prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, hefyd wedi dweud bod hi’n annhebygol y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio ledled Cymru tan ddiwedd mis Chwefror ar y cynharaf.

‘Tawelu meddyliau’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am dargedau a fyddai’n “tawelu meddyliau’r cyhoedd”.

“Rydym yn galw am gynllun sy’n cynnwys targedau ynglŷn â chyflwyno brechiadau, targedau am ostyngiad mewn achosion, a thargedau i ailagor busnesau ac ysgolion,” ychwanegodd Russell George.

“Mae yna lygedyn o obaith, y mae’r Ceidwadwyr Cymreig a phawb arall yn ei groesawu, ond mae angen tawelu meddyliau’r cyhoedd a busnesau yng Nghymru, a dangos bod golau ar ben draw’r twnnel.

“Bydd llwybr clir allan o’r cyfyngiadau yn cynnig y sicrwydd hwn.”

Dim “llacio sylweddol” i’r cyfyngiadau ar hyn o bryd

Rhybudd gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod yr amrywiolyn coronafeirws o Gaint wedi “lledaenu cryn dipyn yn fwy ar draws Cymru” na’r disgwyl.