Mae Gweinidog y Cabinet, Michael Gove, wedi dweud na fydd ffrae gyda’r Undeb Ewropeaidd yn “amharu” ar i gyflenwadau brechlynnau’r Deyrnas Unedig gan AstraZeneca.

Daw hyn ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd fynnu dosau o ffatrïoedd Prydain yn ystod ffrae dros brinder cyflenwadau.

Dywedodd Michael Gove ddydd mai’r “peth cyntaf a mwyaf pwysig” yw bod yr amserlen gyflenwi y cytunwyd arni gyda AstraZeneca yn y Deyrnas Unedig yn cael ei hanrhydeddu.

Yn ôl comisiynydd iechyd yr Undeb Ewropeaidd, Stella Kyriakides, cafwyd trafodaethau “adeiladol” gyda phrif weithredwr AstraZeneca, Pacal Soriot, ar ôl iddi ddweud wrth y cwmni bod y cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol anfon brechlynnau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig i 27 o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd wrth i’r bloc wynebu prinder cyflenwad.

Dywedodd Michael Gove wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i gyflymu ein rhaglen frechu yn effeithiol.

“Mae hynny’n dibynnu ar anrhydeddu’r amserlen gyflenwi y cytunwyd arni.

“Dyna’r peth cyntaf a’r peth pwysicaf.”

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’r Llywodraeth yn caniatáu i frechlynnau fynd i’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd: “Na, y peth allweddol yw bod yn rhaid i ni sicrhau yr amserlen y cytunwyd arni.

“Bydd dim yn amharu ar hynny.”

“Gwrthod rhesymeg ‘cyntaf i’r felin'”

Mae Pascal Soriot wedi dadlau bod “problemau cychwynnol” y gadwyn gyflenwi wedi cael eu datrys yn y Deyrnas Unedig cyn y bloc oherwydd bod Prydain wedi llofnodi cytundeb dri mis ynghynt.

Ond dywedodd Stella Kyriakides: “Rydym yn gwrthod y rhesymeg ‘cyntaf i’r felin’ hon.

“Gall hynny weithio wrth fynd i’r cigydd lleol – ond ddim mewn cytundebau.”

Gwadodd y byddai’r bloc yn gosod gwaharddiad allforio ar frechlynnau sy’n gadael yr Undeb Ewropeaidd ond dywedodd fod y cytundeb a lofnodwyd gydag AstraZeneca, a oedd yn gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen ar ei frechlyn, yn cynnwys dwy ffatri yn y Deyrnas Unedig.

“Does dim hierarchaeth o’r ffatrïoedd.

“Byddwch yn ymwybodol yn y cytundebau bod pedair ffatri wedi’u rhestru ond nid yw’n gwahaniaethu rhwng y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

“Mae ffatrïoedd y Deyrnas Unedig yn rhan o’n cytundebau prynu ymlaen llaw – a dyna pam mae’n rhaid iddyn nhw gyflenwi,” ychwanegodd.

Boris Johnson yn gwrthod gwneud sylw

Yn ystod cynhadledd i’r wasg Stryd Downing, gwrthododd y Prif Weinidog, Boris Johnson, gael ei dynnu i mewn i’r ffrae, ond dywedodd fod y brechlyn yn cael ei gynhyrchu mewn “symiau cynyddol yn y Deyrnas Unedig”, gan ychwanegu: “Bydd hynny’n cyflymu, bydd yr amserlenni cynhyrchu yn parhau i wella.”

Ychwanegodd: “Y cyfan y gallaf ei ddweud yw ein bod yn hyderus iawn yn ein cyflenwadau, rydym yn hyderus iawn yn ein cytundebau, ac rydym yn mynd ymlaen ar y sail honno.”