Beth yw’r diweddaraf gyda Ewro 2020?

Mae Uefa wedi ymrwymo i gynnal Ewro 2020 mewn 12 dinas mewn 12 gwlad wahanol yr haf yma, a hynny er gwaethaf pryderon am Covid-19

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Hal Robson-Kanu

Mae Uefa wedi ymrwymo i gynnal Ewro 2020 mewn 12 dinas mewn 12 gwlad wahanol yr haf yma, a hynny er gwaethaf pryderon am Covid-19.

Yn wreiddiol wrth gwrs, roedd y twrnament i fod i gael ei gynnal yr haf diwethaf, ond cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig – mae bellach i fod i gael ei gynnal rhwng Mehefin 11 a Gorffennaf 11 eleni.

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau ddydd Mercher, Ionawr 27, dywedodd Uefa, corff llywodraethu pêl-droed Ewrop, bod ei swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r 12 dinas, bod trafodaethau yn parhau, a’u bod nhw’n ffyddiog y bydd y gystadleuaeth yn mynd yn ei blaen eleni.

Lle bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal?

Y sefyllfa ar hyn o bryd yw y bydd y twrnament, sy’n parhau i gael ei adnabod fel Ewro 2020 er y bydd yn digwydd yn 2021, yn cael ei gynnal yn y 12 dinas wreiddiol, ledled Ewrop.

“Rwy’n obeithiol bod pethau am fod yn wahanol iawn o ran y feirws wrth i ni symud yn nes at y twrnamaint ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi cymaint o amser i’r dinasoedd a’r llywodraethau ag y gallwn i lunio darlun cywir o’r hyn fydd yn bosibl fis Mehefin a Gorffennaf,” meddai Llywydd Uefa, Aleksander Ceferin.

Mae pob un o’r 12 dinas sydd i fod i gynnal gemau hefyd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i dynnu’n ôl.

Mae disgwyl i Gymru wynebu’r Swistir a Thwrci yn Baku a’r Eidal yn Rhufain.

Fodd bynnag mae adroddiadau fod posibilrwydd y bydd rhaid cynnal y twrnamaint mewn un wlad.

Gyda’r rowndiau cynderfynol a terfynol yn cael eu chwarae yn Wembley – mae hynny wedi arwain at adroddiadau y byddai Lloegr yn ffefryn i gael mwy o gemau.

Mae disgwyl i Uefa wneud penderfyniad terfynol am leoliad y twrnamaint fis Ebrill – ond ar hyn o bryd, glynu gyda’r 12 dinas a enwyd yn wreiddiol yw’r polisi.

Gareth Bale
Gareth Bale, seren tîm pêl-droed Cymru

A fydd cefnogwyr yn cael mynychu’r gemau?

“Mae cefnogwyr yn rhan mor fawr o’r hyn sy’n gwneud pêl-droed yn arbennig ac mae hynny’r un mor wir am yr Ewros,” meddai Llywydd Uefa.

Fodd bynnag roedd Uefa yn cydnabod efallai byddai rhaid bod yn “hyblyg” ac y bydd trafodaethau pellach am nifer y cefnogwyr yn cael eu cynnal fis Ebrill.

“Mae pawb yn cydnabod yr angen i fod yn hyblyg o ran penderfyniadau am drefniadau’r  twrnament,” meddai’r corff mewn datganiad.

O ganlyniad mae’r dyddiad i stadiymau gyflwyno cynlluniau i groesawi cefnogwyr wedi’i symud o fis Mawrth i ddechrau mis Ebrill.

Mae pedwar opsiwn iddynt ddewis: stadiwm lawn, hanner y cefnogwyr, 33% o gefnogwyr neu stadiwm wag.

Ad-daliadau

A hyn o bryd does dim modd cael ad-daliad – daeth y cyfnod i hawlio ad-daliadau i ben yr wythnos hon, ar Ionawr 26.

Bydd yr ad-daliadau hynny yn cael eu prosesu erbyn diwedd mis Chwefror.

Fodd bynnag pe bai gemau’n cael eu canslo neu eu chwarae heb gefnogwyr bydd modd i gefnogwyr dderbyn ad-daliad.

Os caiff gemau eu symud i stadiwm arall sy’n cael croesawu cefnogwyr ac nad oes modd i gefnogwyr deithio yno, ni fydd modd iddynt gael ad-daliad.

Mae polisi ad-dalu tocynnau Uefa yn dweud: “Os bydd gêm yn cael ei gohirio cyn y gic gyntaf, bydd y tocyn yn ddilys ar gyfer y gêm sydd yn cael ei hail-drefnu. Ni fydd gan yr ymgeisydd hawl i ad-daliad os na allant fynychu’r gêm sydd wedi’i had-drefnu.”

Fodd bynnag, yn ddiweddarach, rhoddwyd nodyn ar adran ‘cwestiynau cyffredin yn dweud os “caiff gêm ei symud i leoliad sy’n bellach na 31 milltir o’r lleoliad gwreiddiol, byddai hawl gan ddeiliaid tocynnau i ad-daliad llawn os na allant fynd, neu os nad ydynt yn dymuno mynd”.

Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn ymwybodol fod y cyfnod yma yn un ansicr i bawb sydd yn bwriadu chwarae rhan yn yr Ewros yr haf yma, yn enwedig y cefnogwyr.

“Rydym ni’n ymwybodol bod rhai cefnogwyr yn croesawu’r cyfle i gael ad-daliad tocynnau yn gynnar. Ond wrth gwrs, nid pawb fydd yn teimlo’r un peth ac mi rydym ni’n deall hynny.”

Rheolau ychwanegol posib

Yn ôl y Daily Telegraph mae trefnwyr y gystadleuaeth yn ystyrid llacio’r rheolau yn ymwneud â maint carfanau, gan alluogi i chwaraewyr eraill fod wrth gefn pe bai achosion o’r feirws yn cael eu cofnodi o fewn y garfan.

23 o chwaraewyr oedd yn rhan o garfanau yn ystod Ewro 2016.

Mae hefyd disgwyl y bydd yn rhaid gwahardd chwaraewyr a staff timau sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth rhag cymysgu â theulu a ffrindiau tra bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal .

Y gobaith yw y bydd y mesurau ychwanegol yn golygu na fydd angen canslo gemau yn ystod y twrnamaint.

A fydd y twrnamaint yn cael ei gohirio eto?

Fis Mawrth y llynedd daeth y cyhoeddiad gan UEFA y byddai’r twrnamaint yn cael ei gohirio tan 2021.

Boed torf neu beidio does dim disgwyl i’r corff ohirio’r twrnamaint eto.

← Stori flaenorol

Bodin yn edrych ar Finley Stevens a Scott Banks ar gyfer y garfan dan 21

Bodin yn siarad ar ôl i Gymru gael ei rhoi gyda’r Iseldiroedd, y Swistir, Bwlgaria, Moldova a Gibraltar mewn grŵp cymhwyso ar gyfer Ewro 2023

Stori nesaf →

‘Digon i wella arno’, medd Prif Hyfforddwr Cymru

“Ar ôl esbonio’r hyn a wnaethom yn yr hydref – ein methodoleg – mae nawr rhaid perfformio ar y cae ac ennill gemau”

Hefyd →

Menywod Cymru’n herio Lloegr yn Ewro 2025

Bydd tîm Rhian Wilkinson hefyd yn herio Ffrainc a’r Iseldiroedd