Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi dweud bod “digon i wella arno” wrth i Gymru baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad.
Ar ôl gorffen yn bumed yn y gystadleuaeth y llynedd bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yng Nghaerdydd ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth eleni.
Ers cael ei benodi yn Brif Hyfforddwr yn 2019 mae Wayne Pivac wedi colli yn erbyn Iwerddon ddwywaith, unwaith ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac unwaith yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.
Daw ei unig fuddugoliaethau fel Prif Hyfforddwr y tîm cenedlaethol yn erbyn yr Eidal (ddwywaith) a Georgia.
‘Dysgu am ein gilydd’
“Rydym wedi dysgu nid yn unig o’r Chwe Gwlad gyntaf, ond hefyd o gemau’r hydref, rydym wedi dysgu am y chwaraewyr ac am ein gilydd fel grŵp rheoli,” meddai Wayne Pivac.
“Ond hefyd ein gêm, nad oedd yn gweithio cystal ag yr oedden ni wedi dymuno yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf.
“Mae digon i’w wneud er mwyn gwella. Mae llawer o waith yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni o ran cynllunio a’r ffordd y byddwn yn chwarae yn y gystadleuaeth hon.
“Rydym yn bendant yn canolbwyntio ar ddysgu a pherfformio’n well.”
Mae carfan 36 dyn Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad yn cynnwys enwau hen a newydd.
‘Rydyn ni yma i ennill gemau rygbi’
Fe chwalodd Cymru’r Eidal 42-0 ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, cyn colli pob un o’u gemau canlynol yn y gystadleuaeth.
“Mae’n rhaid i ni fod yn chwarae rygbi da, cadarn am 80 munud er mwyn rhoi cyfle i ni ennill pob gêm. Mae’n rhywbeth y byddwn yn gweithio’n galed iawn i’w gyflawni,” ychwanegodd Wayne Pivac.
“Rydyn ni yma i ennill gemau rygbi. Ar ôl esbonio’r hyn a wnaethom yn yr hydref – ein methodoleg – mae nawr rhaid perfformio ar y cae ac ennill gemau.
“Rydyn ni eisiau hynny gymaint â’r cyhoedd, a dyna beth rydyn ni’n ymdrechu amdano.”
Dylanwad clybiau Lloegr
Yn wahanol i chwaraewyr Cymru sy’n chwarae yn Lloegr, fydd dim rhaid i chwaraewyr yng ngharfan Lloegr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod y bencampwriaeth
Fel rheol, bydd chwaraewyr sydd ddim wedi eu dewis i chwarae yn dychwelyd i’w clybiau, ond roedd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn gobeithio na fyddai rhaid eleni er mwyn gwarchod swigen y tîm cenedlaethol a lleihau ymlediad y coronafeirws.
Mae’n bosib, felly, y bydd rhaid i Tomas Francis, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Dan Biggar, Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit deithio nôl ac ymlaen yn ystod y gystadleuaeth.
Daw hyn wedi i Wayne Pivac ddweud fod Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i’r Chwe Gwlad.
“Gyda’r hyn sy’n digwydd, pobol yn mynd i mewn ac allan o glybiau ac yn ôl i’w cymunedau, neu i mewn ac allan o un swigen i’r llall, rwy’n credu mai dyna ble mae’r feirws yn dechrau cael ei drosglwyddo o berson i berson,” meddai yn ystod cynhadledd i’r wasg yr wythnos ddiwethaf.
“Hoffwn feddwl y byddai synnwyr cyffredin yn cael ei ystyried – a hynny er bod y rheolau yn dweud fel arall.”