Daeth Caerdydd yn ôl o 2-0 i lawr i sicrhau gêm gyfartal yng ngêm gyntaf Mick McCarthy fel rheolwr neithiwr (Ionawr 27).

Roedd hi’n edrych yn debygol y byddai Caerdydd yn colli ei seithfed gêm yn olynol ar ôl i Mads Andersen a Cauley Woodrow sgorio i Barnsley.

Ond fe sgoriodd Sheyi Ojo a Kieffer Moore i’r Adar Gleision gan sicrhau pwynt i’r tîm, gan eu gadael yn 15fed yn y Bencapwriaeth.

Roedd Mick McCarthy yn dychwelyd i’r clwb yr oedd yn ei gynrychioli 314 o weithiau fel chwaraewr, ac roedd gêm olaf McCarthy fel rheolwr yn y Bencampwriaeth hefyd yn erbyn Barnsley, buddugoliaeth o 1-0 fel rheolwr Ipswich ym mis Ebrill 2018.

Gwnaeth y gŵr 61 oed newidiadau mawr i dîm Caerdydd, gan adael capten y clwb Sean Morrison a Harry Wilson ar y fainc.

Prin bod Caerdydd yn bygwth yr ymwelwyr yn yr hanner cyntaf, ond fe sbardunodd ail gôl Barnsley’r tîm, gyda’r Adar Gleision yn sgorio ddwy waith mewn 10 munud i unioni’r sgôr.

“Hapus gyda phwynt”

Dywedodd rheolwr Caerdydd, Mick McCarthy, wrth BBC Sport Wales: “Rwyf yn hapus gyda’r pwynt heddiw.

“Y ffordd y daethom yn ôl ac ymateb, byddwn i’n dweud ein bod wedi ymladd tân gyda thân.

“Dim ond gyda’n gilydd y byddwn yn llwyddo, a dangosodd y garfan gadarnrwydd gwirioneddol heno i gael pwynt allan o’r gêm. Gobeithio y bydd y canlyniad yn rhoi hwb o hyder iddynt.

“Roedd yn gêm mor galed ac roedd yn rhaid i bob un ohonyn nhw ymateb.

“Fe wnaethon ni’n dda iawn i sicrhau pwynt heddiw.”

“Dw i wrth fy modd o gael bod yma,” meddai rheolwr newydd Caerdydd

Mae Mick McCarthy wedi’i benodi tan ddiwedd y tymor

Mick McCarthy yn canu clodydd ei garfan cyn ei gêm gyntaf wrth y llyw

Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd wedi galw am “berfformiad pwerus” yn erbyn Barnsley