Bydd chwaraewr ail reng Cymru, Will Rowlands, yn gadael Wasps i ymuno â’r Dreigiau ar ddiwedd y tymor ar ôl cytuno contract hirdymor gyda thîm Dean Ryan.

Mae Rowlands wedi ennill pum cap ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf fis Chwefror diwethaf, a bydd symud i ranbarth yng Nghymru yn sicrhau ei fod ar gael i barhau i gael ei ddewis gan Wayne Pivac.

Mae’r chwaraewr 29 oed wedi gwneud bron i 100 ymddangosiad i Wasps, lle mae wedi treulio’r saith tymor diwethaf.

“Mae Will yn chwaraewr profedig sydd wedi perfformio’n gyson a thrawiadol i Wasps dros nifer o flynyddoedd,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Dean Ryan.

“Mae’n ail reng athletaidd a phwerus sydd hefyd wedi dangos ei allu drwy wneud y cam i fyny i lefel ryngwladol gyda Chymru dros y 12 mis diwethaf.”