Mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi eu bod yn canslo’r ŵyl eto eleni, gan geisio creu “fformat amgen ar gyfer 2021”.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Eisteddfod gael ei chanslo yn sgil pandemig y coronafeirws.

Mae’r ŵyl gerddorol yn cael ei chynnal yn Llangollen bob blwyddyn, gan ddenu perfformwyr o 50 gwlad a chynulleidfaoedd o dros 50,000.

Er na fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, dywedodd y trefnwyr y bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Gorffennaf 6-11 2021.

Addasu fformat

“Yng ngoleuni’r frwydr fyd-eang barhaus yn erbyn y Coronafeirws, rydym yn gweithio ar gynlluniau i addasu fformat Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gyfer Gorffennaf 2021,” meddai datganiad gan y trefnwyr.

“Mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynghylch y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau torfol yng Nghymru yn ystod haf 2021, rydym hefyd yn cydnabod y byddai’r cyfyngiadau Covid-19 sydd mewn grym ledled y byd yn cael effaith fawr ar y grwpiau o gorau a dawnswyr a fyddai fel arfer yn mynychu ein digwyddiad.

“Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu ein bod wedi penderfynu atal yr elfennau cystadlu byw traddodiadol ar gyfer Llangollen 2021, ac ail-ddychmygu ein digwyddiad mewn ffordd y gellir ei chyflwyno’n ddiogel ond a fydd yn dal i gyfleu hud yr Eisteddfod ryngwladol.

“Rydym yn gweithio’n galed i greu fformat ar gyfer Llangollen 2021 sy’n cynnwys opsiynau digidol a digwyddiad hybrid ar benwythnos a fydd yn cynnwys artistiaid o ŵyl 2020.”

Canslo’r Sioe Frenhinol eto eleni

Roedd disgwyl i sioe amaethyddol fwyaf Ewrop gael ei chynnal yn Llanelwedd fis Gorffennaf eleni

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2022

A bydd rhaid lleihau nifer y staff i “hanner ei faint” meddai’r Prif Weithredwr.