Mae’r gantores Gymreig Charlotte Church wedi dweud ei bod hi’n “siomedig” nad yw Llywodraeth Prydain wedi rhoi mwy o gymorth i’r Celfyddydau yn ystod pandemig y coronafeirws.

Daw ei sylwadau wedi i’r Llywodraeth lansio Cronfa Adfer Diwylliant gwerth £1.57 biliwn i helpu sefydliadau diwylliannol.

Ond yn ôl Charlotte Church, mae angen mwy o gymorth ar y diwydiant.

“Sarhaus”

Roedd y Gymraes enwog ar raglen deledu Good Morning Britain pan ddywedodd fod y Celfyddydau’n bwysig “nid yn unig o safbwynt economaidd… [o ran bod] y diwydiant sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig… ond yn bwysig iawn i’n lles ac i’n diwylliant”.

“Felly rwy’n siomedig iawn gyda’r ffordd y mae’r Llywodraeth wedi trin y Celfyddydau, yn enwedig y cynllun ail hyfforddi yr wyf i’n credu oedd yn eithaf sarhaus… y syniad os ydych chi’n artist o unrhyw fath, bod rhaid i chi jyst ail hyfforddi.”

Roedd ymgyrch hysbysebu’r Llywodraeth wedi awgrymu y gallai dawnsiwr balet “ailgychwyn” gyrfa drwy fynd i weithio yn y  diwydiant seiber ddiogelwch.

Cafodd y poster – un o gyfres a oedd yn cynnwys pobol o amrywiaeth o broffesiynau eraill – ei feirniadu’n hallt ar y cyfryngau cymdeithasol, gan annog yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden i’w alw’n “wallgof”.

Roedd yr hysbyseb yn rhan o ymgyrch Cyber First y Llywodraeth.

Dywedodd y Llywodraeth bod y poster dan sylw yn rhan o “ymgyrch ehangach” ond nad oedd yr amseru “yn dderbyniol”.

Yn ôl Cyngor Celfyddydau Lloegr, mae’r diwydiant celfyddydau a diwylliant yn cyfrannu mwy na £10 biliwn y flwyddyn i economi gwledydd Prydain, gyda £3 yn cael ei wario ar fwyd, diod, llety a theithio am bob £1 sy’n cael ei wario ar docynnau theatr.