Mae disgwyl i fwy o eira ddisgyn ar Gymru dros y penwythnos wrth i’r Swyddfa Dywydd osod rhybudd melyn i rannau o’r wlad.

Bydd y rhybudd melyn am eira yn dod i rym am dri o’r gloch fore Sadwrn (Ionawr 30), gan aros mewn grym tan 6 yr hwyr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r eira fod yn drwm ar adegau, gan darfu ar deithio.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth Storm Christoph â llifogydd i sawl rhan o Gymru, gan effeithio’r gogledd yn enwedig.

Achosodd y llifogydd dirlithriadau, dymchwel pontydd, cau ffyrdd ac amharu ar wasanaethau trafnidiaeth mewn rhannau o’r wlad.

Hwn oedd y trydydd achos o lifogydd cenedlaethol i daro Cymru o fewn blwyddyn, gyda Storm Ciara a Storm Dennis yn achosi dinistr ar draws y wlad fis Chwefror diwethaf.