Mae ymgyrchwyr iaith wedi disgrifio datganiad Llywodraeth Cymru ar ail gartrefi heddiw fel un sy’n “druenus o annigonol”.

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Julie James, y bydd y Llywodraeth yn cynnal rhagor o waith ymchwil ar y mater ac “yn ystyried potensial cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau.”

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru’r posibilrwydd o wneud newidiadau i’r gyfraith, ond wedi dweud y byddai’n rhaid cael dealltwriaeth lawn o’r effaith bosibl cyn gwneud hynny.

Fodd bynnag mae’r ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o beidio cymryd y mater o ddifri.

“Mae’n warthus nad yw’r llywodraeth yn gweithredu ar frys i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r sefyllfa o anghyfiawnder cymdeithasol sy’n cau allan pobl leol o’r farchnad dai ac yn gwanychu’r Gymraeg fel iaith gymunedol,” meddai llefarydd ar ran Cylch yr Iaith.

“Mae diffyg rheolaeth ar ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr wedi arwain at danseilio strwythur a gwead cymdeithasol nifer fawr o gymunedau, gyda’r broblem yn ymledu i nifer gynyddol o gymunedau.”

‘Gweithredu yn y maes ers tro’

Yn ei datganiad eglurodd Julie James bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd “camau pendant”.

“Rydym yn gweithredu yn y maes ers tro gan ragweld rhai datblygiadau ac wedi ymateb i’r sefyllfa bresennol mewn nifer o ffyrdd,” meddai.

Llywodraeth Cymru yw’r unig weinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig sydd wedi caniatáu i bremiwm treth cyngor gael ei godi ar ail gartrefi.

Ers 2017 mae cynghorau sir yng Nghymru wedi gallu defnyddio’r pwerau disgresiwn i godi cyfraddau treth cyngor uwch ar ail gartrefi, ac eiddo gwag tymor hir.

“Mae elfen ‘yn ôl disgresiwn’ y pwerau yn adlewyrchu’r heriau lleol iawn,” meddai Julie James, “ac rwy’n croesawu defnydd creadigol rhai awdurdodau lleol o’r pwerau hyn i ysgogi gwell defnydd o’r stoc anheddau yn eu hardaloedd a defnyddio’r arian ychwanegol i gefnogi cynlluniau tai a datblygu tai fforddiadwy.”

Mae arian o dreth ail gartrefi yn cael ei ddefnyddio i ariannu 18 o dai fforddiadwy yn Solfach yn Sir Benfro.

‘Dim gweithredu penodol’

Nid yw’r datganiad heddiw at ddant Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi bod yn pwyso am atebion i’r hyn maen nhw yn ei alw’n “argyfwng” yng nghefn gwlad.

“Mae’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn ymrwymo i unrhyw weithredoedd penodol yn destun pryder gan fod angen gweithredu nawr yn hytrach na chynnal rhagor o drafodaethau di-bendraw,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol.

“Penderfynodd y Llywodraeth i gynyddu Treth Trafodiant Tir ar ail gartrefi nôl yn Rhagfyr yn dilyn ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill. Croesawon hyn ar y pryd, gan hefyd fynegi siomedigaeth mai dim ond cynnydd pitw o 1% y gwelon.

“Diolch i bwysau gan bobl Cymru, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi addo y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i daclo’r argyfwng tai yn nhymor nesa’r Senedd os bydd yn parhau yn ei swydd. Dim ond drwy gyflwyno Deddf Eiddo allwn ni wir daclo’r argyfwng presennol a sicrhau fod y farchnad tai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth.”

‘Cydnabyddiaeth i’w groesawu’

Mae Plaid Cymru wedi ymateb ychydig yn fwy calonogol i ddatgan Llywodraeth Cymru heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:

“Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cydnabod yr argyfwng ail gartrefi a’i effaith ddinistriol ar gynaliadwyedd ein cymunedau a’r Gymraeg i’w groesawu.

“Fydd deall bod y Llywodraeth yn mynd ati i addysgu ei hun am y broblem drwy gynnal rhagor o ymchwil i’r sefyllfa a chasglu mwy o ddata yn rhoi fawr o gysur, serch hynny, i’r rheiny ledled Cymru sy’n methu fforddio prynu tai mewn cymunedau sydd ar eu gliniau.

“Maen nhw yn deall yn iawn effaith dinistriol gormodedd o ail gartrefi ar lawr gwlad ac mae’n deg i bawb edrych at Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y peth…

“Anghytunwn â’r Llywodraeth nad un cwestiwn sydd i’w ddatrys yma. Yn y bôn, mae’n gwestiwn syml ac yn un i Gymru gyfan: sut all rhai pobl fforddio sawl tŷ tra bo eraill methu fforddio’r un?”

Sefyllfa tai gwyliau yng Ngwynedd yn ‘argyfyngus’, meddai adroddiad

Gwynedd yw’r sir sydd â’r ganran uchaf o dai gwyliau yng Nghymru