Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau na fydd unrhyw newid i’r cyfnod clo presennol.
Dyma’r ail waith i Lywodraeth Cymru adolygu rheolau Covid-19 yn ffurfiol ar ôl i’r cyfyngiadau cenedlaethol ddod i rym yng Nghymru ar Ragfyr 20.
Mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Gwener, Ionawr 29, dywedodd bod y sefyllfa o ran Covid-19 yn “gwella” ond bod angen i gyfyngiadau clo Lefel 4 barhau am dair wythnos arall “er mwyn caniatáu i’r Gwasanaeth Iechyd adfer”.
Ond bydd rheolau ynghylch ymarfer corff gyda phobol o gartrefi eraill yn cael eu llacio.
O dan y rheolau newydd, bydd pobol yng Nghymru yn cael ymarfer corff gydag un person arall o un aelwyd arall, ar yr amod eu bod yn byw’n lleol ac yn cychwyn a gorffen y sesiwn ymarfer corff o’u cartrefi.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ‘lwybr clir’ allan o’r cyfyngiadau.
‘Rhywun yn cael ei frechu bob pum eiliad yng Nghymru’
Dechreuodd Mark Drakeford y gynhadledd trwy ddweud bod dros 362,000 o bobol bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn.
“Mae byddin o feddygon, nyrsys, fferyllwyr, staff cyngor, milwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio o amgylch y cloc ac ym mhob tywydd i frechu pobol rhag y feirws ofnadwy hwn,” meddai’r Prif Weinidog.
“Ers i’r brechlynnau cyntaf ddod ar gael fis diwethaf, mae ein rhaglen wedi mynd o nerth i nerth.
“O ddydd i ddydd rydym yn mynd yn gyflymach ac yn gyflymach.
“Dros yr wythnos ddiwethaf, mae rhywun wedi cael ei frechu bob pum eiliad yng Nghymru.
“Mae mwy na 400 o feddygfeydd teulu yn cynnal clinigau, ac erbyn hyn mae gennym 34 o ganolfannau brechu torfol gyda mwy eto i’w hagor ac mae 17 o ysbytai yn darparu brechlynnau ledled Cymru.
“Mae hon yn ymdrech anhygoel. Gallwn fod yn falch iawn o’r hyn y mae ein Gwasanaeth Iechyd yn ei gyflawni yng Nghymru.”
Achosion yn gostwng ond y Gwasanaeth Iechyd yn parhau dan bwysau
Roedd dros 600 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth ar ddechrau’r cyfnod clo, ac mae’r ffigwr nawr wedi gostwng i 177 achos i bob 100,000
“Rydym yn gweld cwymp cyson mewn achosion o’r feirws ledled Cymru,” meddai Mark Drakefrod.
“Mae hyn yn galonogol iawn ac mae’n ganlyniad i’ch ymdrechion a’ch aberth dros y chwe wythnos diwethaf.
“Ond mae hyn yn dal yn uchel ac rydym ni’n gwybod fod y rhan fwyaf o’r achosion hyn yng Nghymru yn deillio o’r math heintus newydd o’r feirws.
“Ac, er bod nifer y bobol â choronafeirws sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn dechrau sefydlogi, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn parhau dan bwysau sylweddol.
“Mae tua 1,300 o bobol sy’n sâl gyda coronafeirws angen triniaeth barhaus arnynt yn yr ysbyty.
“Ac mae gennym nifer tebyg o bobol yn yr ysbyty sy’n gwella o’r clefyd.
“Mae hyn i gyd yn golygu, er gwaethaf y cynnydd gwirioneddol rydym wedi’i wneud, ei bod yn rhy fuan i ddechrau llacio’r cyfyngiadau.”
Ychwanegodd fod y cyngor i bobol sy’n agored i niwed – i beidio â mynd i’r gwaith neu’r ysgol – wedi ei ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth.
‘Dau newid bach’
“Ond gallwn wneud dau newid bach ond pwysig iawn heddiw, a fydd, gobeithio, yn gosod y sylfeini ar gyfer mwy o lacio i ddod,” meddai’r Prif Weinidog.
“Rwy’n gobeithio mai’r ddau gam bach a gofalus iawn hyn, fydd y cam cyntaf tuag at adeg pan allwn ni i gyd fyw gyda llai o gyfyngiadau ar ein bywydau a heb ofni’r feirws ofnadwy hwn.”
Y ddau newid yw:
- Bydd dau berson o wahanol aelwydydd yn gallu ymarfer corff yn yr awyr agored gyda’i gilydd, cyn belled â’u bod yn cadw pellter cymdeithasol. Rhaid i’r ymarfer corff ddechrau gartref a gorffen yno – ni ddylai pobol yrru i rywle arall er mwyn ymarfer corff.
- Os yw trefniant swigod wedi newid, gellir ffurfio swigen newydd cyn belled â bod bwlch o 10 diwrnod cyn gwneud hynny.
Ysgolion
“Rydym yn deall yr anawsterau sydd yn wynebu plant a phobol ifanc ac mae dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yw flaenoriaeth i ni,” meddai’r Prif Weinidog.
“Yn anffodus, does dim modd i ni wneud hynny ar hyn o bryd.”
Yn ddibynnol ar nifer yr achosion, eglurodd y Prif Weinidog ei fod hefyd yn gobeithio bydd modd i blant ddychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor – o 22 Chwefror – gan ddechrau gyda’r plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyfarfod gydag athrawon, cynghorau sir ac undebau dros yr wythnos nesaf i sicrhau bod rhieni, athrawon a disgyblion yn cael digon o rybudd cyn dychwelyd.
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a fydd angen i ddisgyblion sydd angen rhagor cymorth, ddychwelyd i’r ysgol dros wyliau’r haf eleni.
Ffigurau diweddaraf
- 29 o farwolaethau yn gysylltiedig â choronafeirws wedi eu cofnodi dros y 24 awr ddiwethaf
- 4,695 wedi marw o’r feirws yng Nghymru ers dechrau’r pandemig
- 546 o achosion newydd o’r feirws wedi eu cadarnhau
- 362,253 o bobol yng Nghymru wedi derbyn eu brechiad cyntaf yn erbyn y feirws, cynnydd o 26,182 mewn diwrnod
- 717 o bobol hefyd wedi derbyn yr ail ddos
- 66.9% o bobol dros 80 oed wedi eu brechu