Mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan y Ceidwadwyr Cymreig na fydd yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, Suzy Davies, yn sefyll yn yr etholiad nesaf.
Mae Suzy Davies, a ymgeisiodd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn 2018, wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru ers 2011.
Roedd hi wedi ei dewis i gystadlu am sedd Pen-y-bont ar Ogwr, ond mae wedi tynnu ei henw yn ôl.
Daw hyn ar ôl iddi golli ei lle ar restr ranbarthol Gorllewin De Cymru ar gyfer y Senedd.
Cadarnhaodd y Ceidwadwyr Cymreig ddydd Llun (Ionawr 18) mai Tom Gifford, arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fydd eu dewis cyntaf nhw ar gyfer y rnanbarth yn etholiadau’r Senedd fis Mai.
Mae Altaf Hussain yn ail, Samantha Chohan yn drydydd a Liz Hill O’Shea yn bedwerydd ar y rhestr.
Felly byddai’n rhaid iddi ennill etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr i ddychwelyd i’r Senedd, ond ni fydd hi’n sefyll mwyach.
Y Ceidwadwyr oedd yn fuddugol yno yn etholiadau San Steffan yn 2019 ond y blaid Lafur sydd â’r sedd yn y Senedd ar hyn o bryd.
Dewiswyd Arweinydd y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, ar frig rhestr y blaid ar gyfer yr ardal, Joel James yn ail, Calum Davies (mab Suzy Davies) yn drydydd a Chris Thorne yn bedwerydd.
Mae’r gohebydd gwleidyddol Adrian Masters wedi trydar am y newyddion diweddaraf yma:
More candidate turmoil for the Welsh Conservatives. Those on the party's approved list have been invited to apply for selection in Bridgend and Rhondda "following the withdrawal" of candidates. Bridgend's candidate was the MS Suzy Davies.
— Adrian Masters (@adrianmasters84) January 29, 2021