Mae’r ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru wedi cael sylw yn y South China Mornig Post, papur newydd yn Hong Kong.

Ynddo mae erthygl yn trafod ymweliad Boris Johnson â Chaeredin, lle mae’n brolio rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig ac yn dadlau’r achos dros yr Undeb.

Ond dywed yr erthygl y dylai’r Prif Weinidog ystyried ymweld â Chaerdydd nesaf, gyda chefnogaeth dros annibyniaeth neu “Wexit” yn cynyddu.

“Ym mis Ionawr 2020, dim ond 2,000 o aelodau o’r grŵp ymgyrchu o blaid annibyniaeth oedd gan YesCymru,” meddai’r erthygl

“Flwyddyn yn ddiweddarach, mae aelodaeth YesCymru wedi codi i 17,000, sy’n arwydd efallai bod Draig Goch enwog Cymru yn dechrau ystyried dianc o’i chadwyni.”

Canfu arolwg barn a gyhoeddwyd yn The Sunday Times y penwythnos diwethaf bod 23% o bleidleiswyr Cymru o blaid annibyniaeth lawn, a 31% eisiau cynnal refferendwm yn y pum mlynedd nesaf.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi gwneud gwaith da o chwyddo’r ddadl honno”

Dywedodd  Roger Awan-Scully, Athro Gwyddoniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ac arbenigwr mewn datganoli, wrth y South China Morning Post: “Mae diddordeb wedi bod mewn annibyniaeth i Gymru dros y ddwy i dair blynedd diwethaf.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi gwneud gwaith da o chwyddo’r ddadl honno eu hunain. Roedd llawer yn rhagflaenu’r pandemig ac roedd ganddo fwy i’w wneud â Brexit, a oedd yn amharu ar y syniad hwn o Brydain fel esiampl o gryfder a sefydlogrwydd.”

“Bydd angen cryfhau’r achos dros yr Undeb os yw am wrthsefyll ‘Wexit’,” medd Guto Harri

Mae’n dweud bod “anfodlonrwydd â’r status quo” yng Nghymru erbyn hyn

Prydain ffederal: ymdrech i annog dadl “ddifrifol” o fewn y Blaid Lafur

Iolo Jones

Mae melin drafod annibynnol yn gobeithio “tanio trafodaeth” am ddyfodol y Deyrnas Unedig