Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gefnogi digwyddiadau sydd wedi cael eu gohirio oherwydd y coronafeirws.
Wythnos yma daeth y cadarnhad bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen a’r Sioe Frenhinol wedi eu gohirio am flwyddyn arall.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol, er enghraifft, yn derbyn yr un gefnogaeth ariannol â’r arfer, a hynny er na fydd Prifwyl draddodiadol yn cel ei chynnal yn Nhregaron eleni.
“Rydym wedi dweud yn barod y byddem yn rhoi arian i’r Eisteddfod Genedlaethol a nifer o asiantaethau eraill yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ac rydym dal i siarad gyda nhw dan yr amgylchiadau newydd,” meddai Mark Drakeford.
“Wrth gwrs dw i’n poeni am yr effaith ar yr iaith Gymraeg, dw i’n gwybod pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i nifer fawr o bobol yma yng Nghymru.”
Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod cynnal digwyddiadau ar-lein wedi galluogi i sefydliadau gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Y llynedd cynhaliwyd Eisteddfod T ar-lein yn hytrach nag Eisteddfod yr Urdd, ag Eisteddfod Amgen ar-lein yn hytrach na’r Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae lot o bethau creadigol wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae pobol wedi symud pethe ar-lein, ac ambell waith mae llawer mwy o bobol wedi gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau pan maen nhw ar-lein.
“Rwy’n siŵr bydd mwy o bethau creadigol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ac y bydd yn gwneud i bobol feddwl am y profiadau maen nhw wedi i gael yn barod a’r pethau rydym ni gyd eisiau ei wneud i gefnogi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg yma yng Nghymru.”
Heb ddigwyddiadau byw am gael eu cynnal dros y flwyddyn, pa effaith gai hyn ar yr iaith Gymraeg?@fmwales o'r farn y bydd mwy o greadigrwydd yn dod allan o'r flwyddyn sydd i ddod gan fod pobl yn symud i ddigwyddiadau ar-lein ? pic.twitter.com/FUAwa7FbiG
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) January 29, 2021