Mae gwelliant a oedd yn galw am gynnwys Hanes Cymru – gan gynnwys hanes pobol ddu, Asiaidd ac o gefndiroedd ethnig – fel rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd wedi ei wrthod gan Bwyllgor Addysg y Senedd.

Cyflwynwyd y gwelliant gan lefarydd addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllïan, yn ystod Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Gwener, Ionawr 28.

Wrth egluro ei gwrthwynebiad i’r gwelliant, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, nad oedd hi am “beryglu a chyfyngu cyfraniad Cymru i un pwnc”.

“Dw i am weld a sicrhau, yn unol â’r côd materion, y caiff y meysydd hyn eu cwmpasu ar draws y cwricwlwm,” meddai.

Mae gwrthwynebiad cyson wedi bod i’r cwricwlwm newydd gan nad yw’n dweud yn bendant fod angen dysgu Hanes Cymru, ac mai “mater o ddehongliad” fydd y cynnwys.

‘Loteri côd post’

Yn ôl Siân Gwenllïan, byddai peidio â chynnwys Hanes Cymru fel rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd, gydag adnoddau a hyfforddiant i athrawon, yn arwain at “loteri cod post”.

Eglurodd y Gweinidog Addysg y bydd hi’n orfodol i ddysgu’r meysydd yma ar draws y cwricwlwm.

“Nid oes dianc rhag hynny, bydd dyletswydd gyfreithiol ar bob ysgol ledled Cymru, drwy ganllawiau statudol, i gyflwyno’r cynnwys yma a bydd amrywiaeth hefyd yn cael ei hymgorffori nid o fewn un agwedd ar ddysgu hanes a dyniaethau ond bydd amrywiaeth yn cael ei wreiddio drwyddi draw,” meddai Kirsty Williams.

“Mewn gwirionedd, mae’r hyn y mae’r aelod ei eisiau, ac i ddweud y gwir yr hyn rwy’n cytuno sydd ei angen yn llawer mwy tebygol o allu cyflawni drwy’r dull gweithredu rydym wedi mabwysiadu.

“Mae’n bwysig cydnabod nad fy mreuddwyd i yw’r côd, mae’n ganlyniad i flynyddoedd, nid dyddiau na misoedd, ond blynyddoedd o gydweithio gan weithwyr proffesiynol. A byddai ei danseilio – sy’n mynd yn groes i’r hyn y gwn y mae’r aelod yn credu ynddo – yn mynd yn groes i’r ymddiriedaeth yn y proffesiwn addysg.”

‘Peidio cyfyngu i bwnc hanes’

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi penodi’r Athro Charlotte Williams i roi cyngor penodol i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellir ymgorffori hanes cymunedau BAME yn y cwricwlwm. 

“Nid yw rhestru cynnwys gorfodol yn mynd i gyflawni’r nodau yr wyf i a’r Athro Williams eisiau,” meddai Kirsty Williams.

“Yr hyn y mae’r Athro Williams yn ymdrechu i’w gyflawni yw bod cyfraniad y cymunedau hynny’n cael ei gydnabod nid yn unig yn y dyniaethau ond mewn llythrennedd, cyfathrebu, mewn creadigrwydd, y celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a rhifedd.

“Credaf y byddai’r  gwelliant awgrymwyd yn cyfyngu ar astudio’r pynciau hyn i hanes a’r dyniaethau. Mae’r Athro Williams wedi bod yn gwbl glir bod profiad cymunedau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig yng Nghymru wedi’i gyfyngu i bwnc hanes ac yn amlach na pheidio i destun caethwasiaeth.”

Gall y cwricwlwm newydd arwain at ‘loteri cod post’, medd Plaid Cymru

Bydd Siân Gwenllian yn cyflwyno gwelliant i’r bil yn ystod Pwyllgor Addysg y Senedd heddiw